Swyddfa Ystadegau Gwladol
Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yw'r Adran o'r Llywodraeth sy'n darparu gwasanaethau ystadegol a registration service. Yr Ystadegydd Gwladol, Len Cook, yw Cyfarwyddwr SYG a Chofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr. Mae SYG yn gyfrifol am gynhyrchu ystod eang o brif ystadegau economaidd a chymdeithasol a ddefnyddir gan lunwyr polisïau ym mhob rhan o'r Llywodraeth i lunio polisïau a seiliwyd ar dystiolaeth a monitro perfformiad yn erbyn y polisïau hynny. Mae'r Swyddfa hefyd yn adeiladu ffynonellau data nid yn unig at ei defnydd ei hunan ond at ddefnydd busnesau a chwsmeriaid ymchwil. Mae'n cyhoeddi ystadegau er mwyn i bawb allu asesu cyflwr y genedl, perfformiad y llywodraeth a'i sefyllfa ei hunan yn ddiffwdan.
Mae'r Swyddfa hefyd yn cynnwys General Register Office for England and Wales (GRO). Mae Swyddfa Gofrestru Gyffredinol Cymru a Lloegr yn gyfrifol am sicrhau y cofrestrir genedigaethau, priodasau a marwolaethau yng Nghymru a Lloegr ac am gynnal archif ganolog sy'n dyddio'n ôl i 1837.
Sefydlwyd y Swyddfa yn Ebrill 1996 pan unodd y Swyddfa Ystadegau Ganolog â Swyddfa Poblogaeth, Cyfrifiadau ac Arolygon. Dyma adeg hefyd gyhoeddi ONS Framework Document. Roedd y Ddogfen hon yn nodi statws a threfniadau rheoli SYG ac yn disgrifio ei hamcanion a'i swyddogaethau, ac mae'n cael ei diwygio yn awr er mwyn adlewyrchu'r newid byd a ddaeth ers sefydlu Ystadegau Gwladol gyntaf. Mae gwybodaeth am waith a chyfrifoldebau SYG i'w chael yn ONS Business Plan, 2001/02-2003/04.
Cyhoeddwyd y National Statistics Framework Document yng Ngorffennaf 2000. Yn y Ddogfen hon cawn ddisgrifiad mwy diweddar o'r fframwaith sy'n rheoli llawer iawn o waith ystadegol y llywodraeth.
Rhagor o wybodaeth ddefnyddiol
Annual Report and Accounts 2001-2001 (12Mb pdf)
Annual Report and Accounts 1999-2000 (669Kb pdf)
Annual Report and Accounts 1998-99
Greening ONS Operations Policy Statement (revised May 2000)
ONS e-Business Strategy
ONS Sustainable Development Awareness Strategy
Current Vacancies within the Office for National Statistics
Selling to the ONS: A supplier's guide
Spending Review 2000: New Public Spending Plans 2001 - 2004
ONS Office Location Maps
Diwygiwyd y dudalen hon ddiwethaf: Dydd Gwener, 15 Chwefror 2002