Gwasanaeth gwybodaeth a llyfrgell Ystadegau Gwladol
Nod y Gwasanaethau Ystadegau Gwladol yw darparu mynediad a chymorth i unrhyw un sydd angen ystadegau swyddogol ar gyfer ymchwil, busnes neu ddifyrrwch.
GWASANAETHAU AR GYFER YMWELWYR PERSONOL
Mae Ystadegau Gwladol yn darparu dwy lyfrgell ymchwil agored er mwyn i ymwelwyr gynnal eu hymchwil eu hunain. Mae mynediad am ddim ac nid oes angen gwneud apwyntiad.
Ar agor: 9.00am - 5.00pm Dydd Llun i Ddydd Gwener.
Mae gan ein Llyfrgell yn Llundain dri chasgliad ystadegol helaeth:
- Cyhoeddiadau 'Ystadegau Gwladol' allweddol yn dod o amrywiaeth o adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae pynciau'n amrywio o droseddau a'r amgylchedd i nawdd cymdeithasol ac addysg;
- Cyhoeddiadau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ymwneud â phoblogaeth, iechyd, materion cymdeithasol, cyllid a'r economi yn ogystal â chasgliadau mawr, arolwg parhaol, a data arolwg croestoriadol a gyhoeddir gan y Swyddfa;
- Casgliad o ddata ystadegol rhyngwladol a gyhoeddir gan sefydliadau pwysig fel y Cenhedloedd Unedig, Eurostat a Sefydliadau Ystadegol Gwladol unigol.
Mae gan ein Llyfrgell yng Nghasnewydd gasgliad helaeth o ddata ystadegol yn ymwneud â
Mae gan y ddwy lyfrgell fynediad i'r anabl a chyfleusterau llungopïo.
Byddai'n ddoeth ein ffonio cyn mynd i'r naill neu'r llall o'r llyfrgelloedd er mwyn sicrhau bod y cyhoeddiadau rydych eu hangen ar gael.
ONS Office Location Maps
Gwasanaeth Ymholiadau Cwsmeriaid Ystadegau Gwladol
Gellir defnyddio'r gwasanaeth ymholiadau y mae Gwasanaeth Ymholiadau Ystadegau Gwladol yn ei gynnig drwy ffonio neu anfon e-bost, llythyr neu ffacs. Gallwn ddarparu data ystadegol o amrywiaeth eang o ffynonellau Ystadegau Gwladol pwysig, ac rydym bob amser yn fodlon cyfeirio cwsmeriaid at ffynonellau data eraill.
Rydym yn ceisio ateb pob ymholiad o fewn deg diwrnod gwaith. Fodd bynnag, cofiwch na fedrwn gynnal ymchwil benodol ar ran cwsmeriaid, nac atgynhyrchu data cyfres amser hirfaith.
Er mwyn trafod eich ymholiad, cliciwch ar Cysylltwch â ni.
Diwygiwyd y dudalen hon ddiwethaf: Dydd Gwener, 15 Chwefror 2002