Cymraeg i Oedolion
Hoffech chi wella eich Cymraeg, neu beth am annog cyfaill di-Gymraeg i ddysgu? Mae ymgyrch newydd i gynyddu nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg wedi cychwyn heddiw.
Dyma’r ymgyrch genedlaethol fwyaf i ddenu mwy o oedolion i ddysgu Cymraeg, a’r ymgyrch gyntaf ers sefydlu chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion. Sefydlwyd y Canolfannau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn ymateb i ymrwymiad a wneir yn Iaith Pawb. Mae’r Canolfannau bellach yn gyfrifol am gynllunio a chyllido darpariaeth Cymraeg i Oedolion yng Nghymru, ac maent wedi eu lleoli yn y sefydliadau canlynol:
- Prifysgol Cymru, Aberystwyth
- Prifysgol Cymru, Bangor
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Morgannwg
- Coleg Gwent
- Prifysgol Cymru, Abertawe.
Nod yr ymgyrch yw denu mwy o bobl i ddysgu Cymraeg gan ddefnyddio’r teledu, y we a thaflenni i annog dysgwyr newydd gyda negeseuon allweddol, fel dysgu i symud ymlaen yn y gwaith, dysgu gyda’r teulu neu ddysgu er mwyn cael hwyl. Mae’r ymgyrch ‘Rhannwch eich Cymraeg’ yn un weledol ac yn cael ei hybu fwyfwy gan bobl enwog, sef y dysgwyr sy’n ymddangos ar gyfres Big Welsh Challenge y BBC.
Bydd yr hysbysebion yn cael eu darlledu ar HTV Cymru ac S4C, yn dechrau ar 16 Gorffennaf. Mae’r ddwy hysbyseb yn rhannu’r un cysyniad, ond yn targedu cynulleidfaoedd gwahanol.
Ewch i wefan Cymraeg i Oedolion am fwy o wybodaeth.