This snapshot, taken on
15/01/2008
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Ystadegau Am Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig Ar Waith A Dysgu Cymunedol Yng Nghymru: 2004/05

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ystadegau Am Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig Ar Waith A Dysgu Cymunedol Yng Nghymru: 2004/05

Y gyfrol hon yw'r ail mewn cyfres sy'n rhoi ystadegau am y sector dysgu ôl-16 (ac eithrio sefydliadau addysg uwch a'r chweched dosbarth) yng Nghymru. 

Yn 2003/04 cyflwynwyd system casglu data newydd o'r enw Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru gyda'r nod o gasglu data cyson a chymaradwy ar draws y sector dysgu ôl-16.  Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, casglodd y Cofnod Dysgu Gydol Oes ddata oddi wrth ddarparwyr Addysg Bellach a Dysgu Cymunedol.  Cynhwyswyd darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith er 2004/05.

Mae'r ystadegau yn y gyfrol hon yn ategu Datganiad Cyntaf Ystadegol Llywodraeth y Cynulliad SDR 36/2006 ar sector dysgu ôl-16 2004/05 a'r data cryno sydd ar gael drwy wefan StatsCymru.  Codwyd data o Gofnod Dysgu Gydol Oes ar 2 Chwefror 2006.

Dyma'r canlyniadau allweddol ar gyfer 2004/05:

Sefydliadau Addysg Bellach

  • Cofrestrwyd 239,020 o ddysgwyr mewn pump ar hugain o sefydliadau Addysg Bellach yn ystod blwyddyn academaidd 2004/05.
  • Roedd 10,685 yn dilyn rhaglenni dysgu seiliedig ar waith.
  • Dyma'r ystadegau am fyfyrwyr yn sefydliadau addysg bellach Cymru:
            34 y cant o dan bump ar hugain oed;
            96 y cant yn byw yng Nghymru yn bennaf; 24 y cant o'r rhain yn byw mewn ardaloedd a ddynodwyd yn ddifreintiedig;
             4 y cant o darddiad ethnig nad yw'n wyn;
             8 y cant ag anabledd.

Dysgu cymunedol

  • Dilynodd 56,555 o fyfyrwyr raglen Dysgu Cymunedol AALl yn 2004/05, gan gynnwys 40 y cant a gofrestrwyd gydag AALl a 60 y cant a gofrestrwyd mewn sefydliadau Addysg Bellach ond a ddysgwyd gan staff AALl
  • Roedd 9.5 y cant o dan bump ar hugain oed a 27 y cant yn 60 oed ac yn hyˆ n.

Dysgu Seiliedig ar Waith

  • Dilynodd 58,620 o fyfyrwyr raglenni dysgu seiliedig ar waith, gyda’r darparwyr (gan gynnwys sefydliadau Addysg Bellach) yn derbyn arian gan ELWa yn 2004/05.
  • Mae’r nifer ar raglenni dysgu seiliedig ar waith wedi cynyddu 27 y cant rhwng Mawrth 2000 a Mawrth 2005.
  • Roedd 66 y cant o fyfyrwyr rhaglenni dysgu seiliedig ar waith o dan bump ar hugain oed ar 31 Awst 2004; roedd 2 y cant o darddiad ethnig nad yw'n wyn ac roedd gan 5 y cant anabledd.

Ni ddylid cyfrif niferoedd y myfyrwyr sydd mewn Addysg Bellach, Dysgu Cymunedol a Dysgu Seiliedig ar Waith gyda'i gilydd gan fod diffiniadau’r carfanau yn gorgyffwrdd.

Llwytho: Ystadegau Am Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig Ar Waith A Dysgu Cymunedol Yng Nghymru: 2004/05 [.pdf 692KB] (Saesneg Yn Unig)

 


 

Gwybodaeth Cyhoeddi

iaith : Both
nifertud : 0