This snapshot, taken on
16/01/2008
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Ffermio a chefn gwlad

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ffermio a chefn gwlad

Cymru gwledig

Hyrwyddo cymunedau gwledig cynaliadwy

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi’r cefn gwlad a chymunedau gwledig ac yn annog y gwaith o reoli amgylcheddau amaethyddol yn gynaliadwy.

Mae gwybodaeth fanwl am faterion gwledig ar gael yn ein cylchgrawn Gwlad sydd ar gael mewn print ac ar y wefan hon.

O dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin y DU, rydym yn talu ffermwyr sy'n cadw eu tir mewn cyflwr amaethyddol da ac sy'n cydymffurfio â gofynion amgylcheddol a gofynion iechyd a lles y cyhoedd ac anifeiliaid. Mae Cynllun y Taliad Sengl yn cydredeg â rhaglen Tir Cymru, sy’n cynnwys Tir Cynnal, Tir Gofal a Thir Mynydd.

Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013

Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2013 yw'r mecanwaith y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei ddefnyddio i gyflwyno'r gweithgareddau o dan Reoliad Datblygu Gwledig yr UE (EC 1698/2005). Wedi iddo gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd, bydd y Cynllun Datblygu Gwledig yn sicrhau cyllid y Comisiwn Ewropeaidd o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, swm wedi'i neilltuo o Gronfeydd Strwythurol a derbyniadau o fodiwleiddio gorfodol. 

Mae'n ddogfen bolisi strategol, felly nid yw'n cynnwys manylion gweithredu am y cynlluniau unigol fydd yn cael eu rhoi ar waith. Bydd y manylion hynny'n cael yng nghanllawiau'r cynllun sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gyda rhanddeiliaid mewnol/allanol ac nad ydynt yn destun cadarnhad ffurfiol gan y Comisiwn.

Mae'r gweithgareddau a ganiateir dan y Cynllun Datblygu Gwledig fel a ganlyn:

  • Echel 1   Cryfhau gallu'r sectorau amaeth a choedwigaeth i gystadlu;
  • Echel 2   Gwella'r amgylchedd a chefn gwlad;
  • Echel 3   Gwella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig ac annog arallgyfeirio yn yr economi wledig;
  • Echel 4   Mabwysiadu dull gweithredu Leader ar gyfer adfywio cymunedol

Amcangyfrifir mai'r gwariant amcanol cyffredinol ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig yw £795 miliwn yn y cyfnod 2007-2013, ac mae £195 miliwn ohono yn dod o'r UE.  Bydd cyfraniad pellach o oddeutu £61 miliwn o Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yn cael ei greu dros y cyfnod fel derbyniadau drwy ddefnyddio modiwleiddio gwirfoddol newydd.   Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfrannu tua £523 miliwn, sy'n cynnwys cydariannu £50 miliwn ar gyfer modiwleiddio gwirfoddol. 

Lincs Perthnasol

Mae’r broses sy’n ceisio asesu effaith debygol cynllun neu raglen ar yr amgylchedd cyn eu rhoi ar waith
Cymorthdaliadau sydd wedi’u talu hyd yma i fusnesau amaethyddol yng Nghymru
Gwybodaeth am y cynllun arddangos Ffermio Sensitif i Ddalgylch Afon