This snapshot, taken on
11/09/2008
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Faint fydd mynd i'r brifysgol yn ei gostio? Ffioedd dysgu a chostau eraill

Cam cyntaf llunio cyllideb ar gyfer bywyd myfyriwr yw cyfrifo faint fydd addysg uwch yn ei gostio. Bydd angen i chi ystyried ffioedd dysgu, costau llety a chostau byw.

Faint fydd eich cwrs mewn prifysgol neu goleg yn ei gostio?

Byddwch yn wynebu dau fath o gostau mewn addysg uwch, sef:

  • ffioedd dysgu
  • eich costau llety a'ch costau byw beunyddiol

Ffioedd dysgu

Mae ffioedd dysgu yn helpu i dalu am gostau cynnal prifysgol neu goleg - cyflogau i staff addysgu, cynnal a chadw'r adeiladau ac yn y blaen.

Os byddwch chi'n dilyn cwrs amser llawn, mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fydd uchafswm cost y ffioedd dysgu a godir arnoch. Mae faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu yn dibynnu i ba brifysgol neu goleg y byddwch yn mynd, pa gwrs fyddwch yn ei ddilyn, a ble yn y DU fyddwch chi'n astudio.

Bydd uchafswm y ffioedd dysgu hefyd yn amrywio i fyfyrwyr a ddechreuodd gyrsiau cyn mis Medi 2006 yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol.

Myfyrwyr amser llawn: beth fydd cost eich ffioedd dysgu?

Os dechreuodd eich cwrs ar ôl mis Medi 2006

Os dechreuodd eich cwrs yn ystod neu ar ôl mis Medi 2006 - neu os nad yw wedi dechrau eto - yr uchafswm y gellir ei godi arnoch am ffioedd dysgu ar gyfer 2008/2009 yw £3,145. Ar gyfer 2007/2008, yr uchafswm yw £3,070.

Os dechreuodd eich cwrs cyn mis Medi 2006

I fyfyrwyr a ddechreuodd cyn mis Medi 2006 - ac i nifer a ddechreuodd ym mis Medi 2006 ar ôl cymryd blwyddyn fwlch yn 2005/2006 - y cyfraniad mwyaf tuag at eu ffioedd dysgu fydd £1,255 yn 2008/2009 a £1,225 yn 2007/2008.

Cael gwybod beth fydd cost eich ffioedd dysgu

Gallwch gael gwybodaeth am ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau unigol trwy wefan UCAS.

Ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr rhan-amser

Does dim rheoliadau sy'n nodi faint y gall prifysgolion godi am ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau rhan-amser. Holwch gyda'ch prifysgol neu'ch coleg faint fyddant yn ei godi - mae'n werth holi hefyd faint fydd y ffioedd yn debygol o gynyddu drwy gydol eich cwrs.

Costau llety a chostau byw eraill

Mae nifer o bethau i'w hystyried pan fyddwch yn cyfrifo eich costau byw. Bydd eich costau yn uwch os byddwch chi'n byw oddi cartref, ac yn uwch fyth os fyddwch chi'n byw ac yn astudio yn Llundain.

Mae costau byw i fyfyrwyr amser llawn yn cynnwys:

  • llety - mae'n debygol mai dyma fydd eich cost unigol fwyaf os byddwch chi'n byw oddi cartref
  • bwyd
  • biliau'r cartref - nwy, trydan, trethi dŵr, ffôn, trwydded deledu, yswiriant cynnwys (bydd rhai o'r rhain yn cael eu cynnwys ym mhris y rhent os byddwch yn byw mewn neuadd breswyl)
  • dillad
  • teithio
  • cymdeithasu
  • hamdden a chwaraeon
  • costau astudio - megis llyfrau, deunyddiau a theithiau maes ar gyfer eich cwrs

Cymorth gyda chostau prifysgol

Mae cymorth ariannol ar gael i'ch helpu gyda'ch ffioedd dysgu, ac mae'n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth tuag at eich costau llety a'ch costau byw. Dilynwch y ddolen berthnasol isod i gael gwybod faint y gallwch ei gael.

Cyllidebu

Pan fyddwch wedi cyfrifo faint fydd addysg uwch yn ei gostio i chi, a faint o help allwch chi ei gael, byddwch yn barod i lunio cyllideb:

  • ceisiwch lunio cyllideb wythnosol neu fisol a glynu wrthi
  • cofiwch y bydd disgwyl i unrhyw grant neu fenthyciad a gewch bara hyd at ddechrau'r tymor canlynol - gan gynnwys dros y gwyliau

Defnyddiwch y dolenni isod i gael mwy o gyngor am gyllidebu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU