More about the UK Government Web Archive
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.
"); pop2win.document.write("

Yn llwytho ..."); pop2win.document.close(); pop2win.location = popurl; } popheight = eval(popheight+'+30'); pop2win.resizeTo(popwidth,popheight); pop2win.focus(); } // end -->

Environment Agency

Skip to page content


Primary navigation: links to main site sections

25 Hydref 2008

Asiantaeth yr AmgylcheddBanner

Links trail: breadcrumb trail of selected links

Rydych chi yn: Arall > Cymorth > Hysbysiad a hawliau


Cymorth

Secondary navigation: links to other relevant sections



Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Hysbysiad a hawliau

Hybysiad ar gyflenwi gwybodaeth Asiantaeth yr Amgylchedd

  1. Cedwir bob hawl eiddo deallusol ar gwybodaeth o fewn y wefan hon (‘Data’) gan Asiantaeth yr Amgylchedd, naill ai yn gyfangwbl neu ar y cyd, neu cedwir yr hawliau gan gorff annibynol allanol sydd wedi rhoi eu caniatâd i gynnwys eu gwybodaeth o fewn ein gwefan.
  2. Nid oes unrhyw beth o fewn yr hysbysiad yma i gyfyngu eich hawliau statudol ac unrhyw hawliau eraill i gael y Data. Os dymunech wneud unrhyw beth y tu hwnt i’r hawliau hynny, cewch wneud yn unol â’r paragraffau isod os fedrwch gytuno i’r holl termau.
  3. Nid yw’r Data wedi ei baratoi i ymateb i’ch gofynion chi nac unrhyw unigolyn penodol ac felly mae’r cyfrifoldeb arnoch chi i sicrhau fod y Data yn berthnasol i’ch anghenion.
  4. Ni fedrwn sicrhau ac felly nid ydym yn gwneud unrhyw addewid fod Data’r wefan hon yn gywir, cyflawn, cyfoes nac yn ddilys ond rydym yn cymryd pob gofal resymol i sicrhau ei fod yn gopi cywir o’n cofnodion Data ni ein hunain.
  5. Ni allwn warantu fod y Data heb unrhyw wall na nam a ddylech gwneud eich gwiriadau firws eich hun.

  6. Lle mae gwybodaeth ar ein gwefan yn eiddo gorff annibynnol allanol, ni ddylech ei gopi na’i ddefnyddio heb eu caniatâd.

  7. Defnydd awdurdodedig o ddata Asiantaeth yr Amgylchedd

  8. Yn unol â pharagraff 6, cewch ddefnyddio Data ein gwefan at eich defnydd eich hun ar yr amod nad ydyw nac yn perthyn i unrhyw weithgaredd masnachol, busnes, proffesiynol na gweithgaredd codi elw arall (ar wahân i godi ffi mewn ymateb i gais am wybodaeth os gennych gyfrifoldebau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth). Cyhyd â’ch bod yn cyd-ymffurfio â’r cyfyngiad yma cewch:

    • gymryd copïau i'ch ddefnydd eich hun neu i ddosbarthu i eraill os ydych yn copïo’r Data yn union fel y maent (er nad yw hyn yn rhwystro addasu maint, ffurf y testun na ffurf y ffeil) ac os ydych yn ei roi i eraill, rhaid cynnwys copi o’r hysbysiad yma a gofyn i’r derbynwyr gyd-ymffurfio â’r hysbysiad hefyd.
    • gynnwys copïau o luniau, tablau, diagramau (ar wahân i ddarnau o destun) wedi eu cymryd o’r Data mewn dogfen arall at eich defnydd eich hun, ar yr amod nad yw’r llun ayyb wedi ei newid na’i drin mewn unrhyw ffordd ar wahân i addasu ei faint.
    • gynnwys darnau o destun o Data Asiantaeth yr Amgylchedd mewn dogfen arall at eich defnydd eich hun ar yr amod fod y dyfyniad yn ddarn cyfan o wybodaeth ynddo’i hun ac nad yw wedi ei gymryd allan o gyd-destun nac yn gam-arweiniol mewn unrhyw ffordd arall.
    • gyhoeddi (gan gynnwys rhoi ar wefan) neu dosbarthu mewn copïau lluosog, ar bapur na mewn ffurf electronig, unrhyw ddogfen â nodir yn y ddau bwynt blaenorol.

Os ydych yn copïo Data Asiantaeth yr Amgylchedd i bobl eraill neu yn eu cyhoeddi mewn unrhyw ddogfen neu dudalen Rhyngrwyd, ddylech gydnabod perchnogaeth Asiantaeth yr Amgylchedd o’i Ddata.
Un ffordd o wneud hyn yw ychwanegu’r geiriau "© Hawlfraint a/neu hawliau bâs-data Asiantaeth yr Amgylchedd 20xx. Cedwir pob hawl. Environment Agency copyright and/or database right 20xx. All rights reserved" (gan ddefnyddio’r flwyddyn rydych wedi derbyn y Data gennym os nad ydym wedi nodi pa flwyddyn i’w ddefnyddio).
Mae’n bwysig eich bod yn darllen unrhyw wybodaeth neu rybudd ychwanegol rydym yn rhoi i chi am Ddata penodol.


Additional links: regional information

uk

Anglia | Canolbarth | GDd Lloegr | GG Lloegr | DG Lloegr | De Lloegr | Tafwys | Cymru


Yn ôl at ben y dudalen

©Asiantaeth yr Amgylchedd 2008
Polisi Preifatrwydd

Awdur: Nick Squire | webmaster@environment-agency.gov.uk