Croeso i wefan y Swyddfa Gartref
Rydym yn rhoi diogelu'r cyhoedd yn glir wrth wraidd ein gwaith i wrthsefyll terfysgaeth, lleihau troseddau, darparu polisïau effeithiol, diogelu ein ffiniau a diogelu hunaniaeth bersonol.
Ein strategaeth
Cydweithio i ddiogelu'r cyhoedd
Rydym am i bobl deimlo'n ddiogel, ac yn hyderus yn eu cartrefi a'u cymdogaethau, fel y gallant fyw yn rhydd, cyfrannu at gymdeithas a ffynnu yn eu bywydau bob dydd. Mae strategaeth y Swyddfa Gartref yn nodi ein cyfeiriad am y tair blynedd nesaf ar gyfer ystod lawn ein gwaith.
Darllenwch am yr hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni, sut rydym yn bwriadu ei gyflawni, a'r mesurau y byddwn yn eu defnyddio i asesu ein cynnydd yn Strategaeth y Swyddfa Gartref.
Amcanion adrannol
Rydym yn cydweithio â'n partneriaid a'r cyhoedd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i:
- helpu pobl i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a'u cymunedau
- lleihau troseddau, yn enwedig troseddau treisgar a throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol
- arwain plismona gweladwy, ymatebol ac atebol
- diogelu'r cyhoedd rhag terfysgaeth
- diogelu ein ffiniau a rheoli ymfudo er budd ein gwlad
- diogelu hunaniaeth pobl a breintiau dinasyddiaeth
- cefnogi'r broses o weinyddu cyfiawnder mewn modd effeithlon ac effeithiol
Cewch ragor o wybodaeth am ein diben a'n hamcanion, a sut rydym yn diwygio'r Swyddfa Gartref i'w cyflawni drwy ddarllen O Wella i Weddnewid.
Ein gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd y gwnaethom eu datblygu gyda'n staff a'n rhanddeiliaid yn sail i'r modd y byddwn yn cyflawni ein hamcanion, ac yn arwain ein hymddygiad bob dydd:
- rydym yn cyflawni er budd y cyhoedd
- rydym yn broffesiynol ac yn arloesol
- rydym yn gweithio'n agored ac yn gydweithredol
- rydym yn trin pawb â pharch
Cyhoeddiadau
Rydym yn cyhoeddi nifer o adroddiadau a dogfennau strategaeth ar fusnes y Swyddfa Gartref a allai fod o ddiddordeb i aelodau o'r cyhoedd.
- Cynllun Iaith Gymraeg y Swyddfa Gartref
- Adroddiad Adrannol 2008
- Cydweithio i Ddiogelu'r Cyhoedd - Strategaeth y Swyddfa Gartref 2008-11
- Cwtogi ar Droseddu - Partneriaeth Newydd 2008-11
- Strategaeth Wyddoniaeth ac Arloesi 2005-08
- O Wella i Weddnewid
- Cadw plant yn ddiogel rhag troseddwyr rhyw
- O'r Gymdogaeth I'r Wlad Gyfan: Plismona ein Cymunedau Gyda'n Gilydd (new window)
- 2008 Adroddiad yr ysgrifennydd Gwladol ar Gydraddoldeb Anabledd
Manylion cyswllt y Swyddfa Gartref
Dim ond ymholiadau sy'n gysylltiedig â chyfrifoldebau canolog y Swyddfa Gartref y dylid eu hanfon i'r cyfeiriad isod. Os yw eich ymholiad yn ymwneud â mewnfudo, lloches, y gwasanaeth prawf cenedlaethol, y gwasanaeth carchardai, ymchwil ac ystadegau'r Swyddfa Gartref, cardiau adnabod, pasbortau neu fisâu, ewch yn uniongyrchol i dudalennau cyswllt y gwefannau uchod.
Home Office
Direct Communications Unit
2 Marsham Street
London SW1P 4DF
Ffôn: 020 7035 4848 (09:00-17:00 Llun-Gwen)
Ffacs: 020 7035 4745
Minicom: 020 7035 4742 (09:00-17:00 Llun-Gwen). Noder mai gwasanaeth i aelodau o'r cyhoedd sydd â nam ar eu clyw yw'r gwasanaeth hwn.
E-bost: public.enquiries@homeoffice.gsi.gov.uk
Gweithdrefnau cwyno a sut i gysylltu â ni
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth effeithlon a chwrtais i chi, ond mae'n anochel y bydd pethau yn mynd o'i le o bryd i'w gilydd.
Rhowch wybod i ni pan fydd hyn yn digwydd fel y gallwn unioni materion cyn gynted â phosibl. Yn yr un modd, os oes gennych unrhyw awgrymiadau am sut y gallwn wella ein gwasanaeth yn gyffredinol, byddwn yn fwy na pharod i wrando.
Cwynion cyffredinol
Ysgrifennwch at:
Home Office
Direct Communications Unit
2 Marsham Street
London SW1P 4DF
Ffôn: 020 7035 4848
Ffacs: 020 7035 4745
Minicom: 020 7035 4742
E-bost: public.enquiries@homeoffice.gsi.gov.uk
Cwynion yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo
Gweler y dudalen gwynion ar wefan yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo (new window), sy'n egluro pa ran o'r Asiantaeth y dylid anfon cwyn iddi ac ar gyfer pa fath o gwyn.
Cwynion am yr heddlu
Mae nifer o ffyrdd y gallwch gwyno am yr heddlu:
- Ewch i'ch gorsaf heddlu leol - Gallwch fynd i orsaf yr heddlu a gofyn am gael gweld uwch swyddog yr heddlu. Bydd hi neu ef yn eich cynghori ar sut i gofrestru eich cwyn
- Gallwch gysylltu â Chomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu a fydd yn cysylltu â'r heddlu ar eich rhan
Ysgrifennwch at:
Independent Police Complaints Commission
90 High Holborn
London WC1V 6BH
Ffôn: 08453 002 002
Ewch i: www.ipcc.gov.uk
Ebost: enquiries@ipcc.gov.uk
Cwyno i sefydliadau eraill
Gallwch hefyd gysylltu â'r sefydliadau canlynol a gall pob un ohonynt ddarparu gwybodaeth am wneud cwyn i'r heddlu: