This snapshot, taken on
06/05/2009
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Prynu dodrefn, ffitiadau a lloriau mwy gwyrdd

Defnyddir swm syfrdanol o ynni a dŵr i gynhyrchu dodrefn a lloriau, a gall y math o ffitiadau y byddwch chi'n eu dewis effeithio ar faint o ynni a dŵr y byddwch yn eu defnyddio yn eich cartref. Gallwch wneud gwahaniaeth drwy ddewis pren a gynhyrchwyd yn gynaliadwy a ffitiadau effeithlon, fel bylbiau golau ar gyfer eich cartref.

Dewiswch opsiynau goleuo ynni isel

Gall bylbiau golau ynni isel (a elwir hefyd yn lampau fflwroleuol cywasgedig) ddefnyddio bum gwaith yn llai o drydan na'r hen fylbiau golau confensiynol, sy'n golygu llai o ollyngiadau carbon. Byddant yn gweithio mewn ffitiadau a lampau arferol.

  • erbyn hyn, mae bylbiau ynni isel ar gael yn eang am brisiau isel (gan gynnwys mewn archfarchnadoedd)
  • bydd lamp fflwroleuol gywasgedig 20 wat, 12,000 awr yn arbed oddeutu £60 yn ystod ei hoes o'i chymharu â bwlb ffilament twngsten 100 wat cyfatebol
  • gallwch brynu bylbiau golau ynni isel sy'n edrych yn debyg i hen fylbiau ac sy'n cynhyrchu golau o'r un lliw
  • ceir gwybodaeth ar becynnau'r rhan fwyaf o fylbiau ynni isel ynglŷn â'u disgleirdeb o'u cymharu â bylbiau arferol
  • ni ellir defnyddio llawer o'r lampau fflwroleuol cywasgedig sydd ar werth â switshis pylu golau, ond mae mwy a mwy o'r rhain ar gael y dyddiau hyn
  • peidiwch ag anghofio diffodd goleuadau ynni isel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio

Dewiswch gynhyrchion pren o ffynonellau cynaliadwy

Gallwch ddod o hyd i ddodrefn pren neu loriau pren wedi'u gwneud o bren a gynhyrchwyd mewn modd cynaliadwy drwy edrych am labeli gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC), y Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) neu gynlluniau eraill sy'n ardystio coedwigoedd. Gallwch ofyn i'ch adwerthwr am gynlluniau ardystio.

Ailddefnyddiwch ac adnewyddwch ddodrefn a lloriau

Ystyriwch opsiynau eraill yn hytrach na phrynu cynhyrchion newydd:

  • mae prynu dodrefn ail-law neu hen ddodrefn neu gyfnewid eitemau am ddim yn dda i'r amgylchedd gan ei fod yn arbed defnyddio deunyddiau newydd (ond gallai hen ddodrefn sydd wedi'u llenwi ag ewyn fod yn beryglus pe ceid tân, a dylid cael gwared â hwy)
  • gall adnewyddu hen loriau pren edrych yn wych ac ychwanegu at werth eich cartref
  • mae defnyddio byrddau llawr a adferwyd yn hytrach na phrynu rhai newydd yn arbed adnoddau gwerthfawr

Prynwch ddodrefn a lloriau sy'n para

Mae angen ynni ac adnoddau i gynhyrchu pob math o loriau a dodrefn, a gallai hyn beri niwed i'r amgylchedd mewn ffyrdd eraill:

  • fel rheol gyffredinol, os oes gennych chi'r dewis, prynwch gynnyrch a fydd yn para yn hytrach na chynnyrch dros dro, rhag i chi orfod ei newid yn aml
  • pan fyddwch yn penderfynu prynu gosodiadau a ffitiadau newydd, ystyriwch ddeunyddiau ail-law, deunyddiau a adferwyd neu rai adnewyddadwy

Byddwch yn ymwybodol o driniaethau a gorffeniadau

Wrth ddewis triniaeth, glud neu farnais, ceisiwch ddod o hyd i'r un sy'n cael yr effaith leiaf posib ar yr amgylchedd.

Mae llawer o'r cynhyrchion hyn yn gollwng cyfansoddion organig anweddol (VOCs), a all niweidio'r amgylchedd drwy adweithio gyda chemegau eraill i gynhyrchu'r hyn a elwir yn oson ar lefel yr arwyneb.

Efallai y bydd labeli ar diniau neu boteli cynhyrchion yn dangos cynnwys y VOC - ceisiwch ddewis yr un sydd â'r lleiaf o VOC.

Ailgylchwch pan fo'n bosib

Dysgwch sut mae ailgylchu'ch hen bethau:

  • yn hytrach na chael gwared ar eich hen ddodrefn, ceisiwch eu rhoi i siop elusen neu eu hailgylchu (er y gallai hen ddodrefn sydd wedi'u llenwi ag ewyn fod yn beryglus pe ceid tân, a dylid cael gwared â hwy)
  • hen garpedi yw dau y cant o'r holl wastraff a gaiff ei ddympio yn y DU - nid yw'r rhan fwyaf o fannau ailgylchu yn derbyn hen garpedi, ond gallwch eu hailddefnyddio yn yr ardd er mwyn rheoli chwyn, neu gallwch eu rhoi i elusen

Gosodwch ffitiadau sy'n arbed dŵr

Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i arbed dŵr wrth osod ffitiadau newydd:

  • gosod taenellwyr cawod sy'n defnyddio llai o ddŵr
  • gosod awyrydd neu ffitiadau chwistrell ar dapiau basn golchi dwylo (er nid ar faddonau na sinciau gan y bydd llif y dŵr yn rhy araf i'w llenwi)
  • gosod fflysh isel neu fflysh deuol ar eich toiledau

Y mater ehangach

Mae'r modd y caiff gosodiadau a ffitiadau ar gyfer y cartref eu cynhyrchu, eu gosod a'u gwaredu yn effeithio ar yr amgylchedd.

Amcangyfrifir bod dros chwarter y pren sy'n cyrraedd y DU wedi ei gynhyrchu'n anghyfreithlon. Gall torri coed yn anghyfreithlon ac arferion coedwigaeth anghynaliadwy ddinistrio cynefinoedd naturiol a chyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae coed yn amsugno carbon deuocsid, felly os na phlennir rhai newydd yn lle'r rhai a dorrwyd bydd cynnydd mewn carbon deuocsid a fydd yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Gall ffitiadau arbed dŵr helpu i leihau prinder dŵr a lleihau faint o ynni y mae ei angen i bwmpio a thrin ein dŵr. Mae opsiynau goleuo ynni effeithlon yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd gan nad oes angen cynhyrchu cymaint o drydan i'w defnyddio.

Additional links

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Cael ryseitiau blasus sy'n defnyddio bwyd dros ben a chyngor ar sut i leihau eich gwastraff bwyd

Arbed Arian Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU