Gallwch lenwi'ch ffurflen dreth ar-lein gan ddefnyddio gwasanaeth diogel gan Gyllid a Thollau EM.
Gallwch ffeilio ffurflenni treth hunanasesu ar y we (gydag atodiadau neu hebddynt), gweld eich cyfriflenni a gwneud taliadau'n electronig.
Bydd y ddolen isod yn eich arwain at dudalen gofrestru ar wefan Cyllid a Thollau EM. Bydd angen i chi gofrestru ac ysgogi eich cyfrif cyn y gallwch lenwi eich ffurflen dreth ar-lein. Mae’n gyflym, yn gyfleus ac yn hawdd i’w ddefnyddio.
Gallwch hefyd weld cwestiynau cyffredin a chael gwybod am yr hyn sydd ei angen ar eich cyfrifiadur er mwyn gallu defnyddio'r gwasanaeth ar-lein.
Gweld pa fudd-daliadau mae'n bosib bydd gennych hawl iddo
I weld ffeiliau PDF, mae angen Adobe Reader arnoch. Mae'r rhaglen ar gael am ddim os nad yw gennych chi eisoes.