This snapshot, taken on
07/05/2009
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pwy sydd wedi'u heithrio rhag cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Dim ond mewn sefyllfaoedd penodol iawn y caiff pobl eu heithrio. Os nad ydych chi'n cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol dylech ganfod a oes gennych hawl iddo cyn gwneud cwyn.

Pobl nad oes ganddynt hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Hunangyflogedig

Os ydych chi'n hunangyflogedig nid oes gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os ydych chi'n credu eich bod yn weithiwr ond bod eich 'cyflogwr' yn dweud eich bod yn hunangyflogedig, os ceir anghydfod am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol sy'n mynd ymlaen i Dribiwnlys Cyflogaeth neu lys sifil, lle eich cyflogwr yw profi eich bod yn hunangyflogedig.

Cyfarwyddwyr cwmni

Os ydych chi'n gyfarwyddwr cwmni, yng ngolwg y gyfraith, rydych yn 'ddeiliad swydd. Nid oes gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y gwaith a wnewch fel deiliad swydd. Os oes gennych hefyd gontract cyflogaeth neu gontract gweithiwr bydd gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y gwaith a wnewch dan y contract hwnnw. Os nad ydych yn sicr a yw hyn yn berthnasol i chi ai peidio, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

Rhai prentisiaid

Os ydych chi'n brentis dan 19 oed nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os ydych chi'n brentis sy'n 19 oed neu hŷn a'ch bod yn dal ym mlwyddyn gyntaf eich prentisiaeth nid oes gennych chithau chwaith hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Ambell gynllun gan y llywodraeth ar lefel cyn prentisiaeth

Os ydych yn cymryd rhan yn un o'r cynlluniau canlynol nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol:

  • yn Lloegr, Entry to Employment neu Brentisiaethau dan arweiniad Rhaglen
  • yn yr Alban, Get Ready for Work
  • yng Ngogledd Iwerddon, Access
  • yng Nghymru, Adeiladu Sgiliau

Rhaglenni cyflogaeth y Llywodraeth

Mae'n bosib na fydd gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os byddwch yn cymryd rhan yn un o raglenni cyflogaeth y llywodraeth sydd â'r bwriad o ddarparu hyfforddiant neu brofiad gwaith i chi, neu eich helpu i gael gwaith neu i chwilio am waith. Os ydych chi'n mynd i gymryd rhan mewn cynllun fel hwn, holwch y trefnwyr i weld a fyddwch yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Rhaglen Youth in Action neu raglen Leonardo da Vinci y Gymuned Ewropeaidd

Os ydych yn cymryd rhan yn unrhyw un o'r cynlluniau hyn ni fydd gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Profiad gwaith

Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n gwneud profiad gwaith fel rhan o gwrs addysg uwch neu addysg bellach nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os nad yw'r profiad gwaith yn para mwy na blwyddyn.

Byw yng nghartref eich cyflogwr

Os ydych yn aelod o deulu eich cyflogwr, yn byw yn ei gartref ac yn helpu i redeg busnes y teulu neu'n helpu â'r gwaith tŷ, nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os ydych yn helpu â thasgau'r teulu ac yn ymuno yn eu gweithgareddau.

Os nad ydych yn aelod o deulu eich cyflogwr ond eich bod yn byw yn ei gartref ac yn helpu â'r gwaith tŷ ac yn ymuno â'r teulu mewn gweithgareddau hamdden, er enghraifft os ydych yn 'au pair', nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Gwaith i ffrindiau a chymdogion

Os byddwch yn gwneud gwaith i ffrind neu gymydog, ond yn gwneud hynny'n anffurfiol, heb fod yn rhwym i gontract, er enghraifft, os cewch dâl fel diolch am helpu gyda'r siopa, nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Aelodau’r lluoedd arfog

Os ydych chi'n aelod o'r lluoedd arfog, nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys aelodau wrth gefn sy'n cynorthwyo gyda gweithgareddau'r cadetiaid (y Cadetiaid Cyfun, Cadetiaid y Môr, Cadetiaid y Fyddin a'r Corfflu Hyfforddiant Awyr) fel Oedolion Gwirfoddol y Cadetiaid (CFAV). Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol pan nad ydych yn gweithio fel aelod wrth gefn neu CFAV.

Pysgotwyr cyfran

Os ydych chi'n bysgotwr cyfran sy'n cael cyfran o'r elw a geir o bob daliad yn hytrach na chyflog sefydlog, nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Carcharorion

Os ydych chi'n garcharor sy'n gweithio dan reolau carchar, neu'n rhywun sy'n cael ei gadw dan ddeddfau mewnfudo ac yn gweithio mewn Canolfan Symud o'r Wlad dan ei rheolau hi, nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Gwirfoddolwyr

Nid yw gwirfoddolwyr yn gymwys i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol gan nad oes gennych unrhyw fath o gontract cyflogaeth na chontract gweithiwr ac nad ydych felly'n cael eich ystyried yn weithiwr at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Nid oes ots i bwy yr ydych yn gwirfoddoli; gall fod yn unrhyw un, nid mudiadau gwirfoddol yn unig.

Fodd bynnag, nid yw'r ffaith eich bod yn cael eich disgrifio fel gwirfoddolwr o reidrwydd yn golygu nad oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os yw'ch trefniadau 'gwirfoddoli' mewn gwirionedd yn gontract cyflogaeth neu'n gontract gweithiwr, bydd gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol oni cheir eithriad penodol, megis yr eithriad ar gyfer 'gweithwyr gwirfoddol'.

Gweithwyr gwirfoddol

Mae gan y term 'gweithiwr gwirfoddol' ystyr penodol at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Yn wahanol i wirfoddolwyr, mae gweithwyr gwirfoddol yn gweithio dan gontract cyflogaeth neu gontract i weithio neu ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb. Nid yw gweithwyr gwirfoddol yn gymwys i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol gan fod rheolau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn eu heithrio'n benodol. Cewch eich eithrio os ydych yn gweithio i elusen, i fudiad gwirfoddol, i gorff codi arian cysylltiedig neu i gorff statudol ac nad ydych yn cael mwy nag ychydig o dreuliau a buddion ymarferol.

Pobl sy'n byw mewn cymuned grefyddol neu gymuned arall

Os ydych chi'n byw mewn cymuned grefyddol neu gymuned arall (heblaw cymunedau sy'n ysgolion annibynnol neu sy'n darparu addysg bellach neu addysg uwch) nid oes gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol am unrhyw waith a wnewch i'r gymuned. I hyn fod yn gymwys, mae'n ofynnol bod ymarfer neu annog cred grefyddol neu debyg yn un o ddibenion y gymuned, a rhaid i rai, neu bob un, o'i haelodau fod yn byw gyda'i gilydd at y diben hwn. Rhaid i'r gymuned hefyd fod yn elusen neu rhaid ei bod wedi'i sefydlu gan elusen.

Ble mae cael cymorth

Mae llinell gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn rhoi cymorth a chyngor cyfrinachol ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gall ddelio â galwadau mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a chithau â hawl iddo gallwch wneud cwyn wrth linell gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen 'Cysylltiadau cyflogaeth'. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU