Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Prif rôl Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yw cynnig cyngor a gwybodaeth i’r Asiantaeth am faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau, gan gynnwys materion penodol sy’n effeithio ar Gymru.
O dan y gweithdrefnau gweithredu safonol, sefydlwyd y Pwyllgor Cynghori i roi cyngor neu wybodaeth i’r Asiantaeth, sydd yn ei thro yn cynghori’r awdurdodau priodol ar faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau yng Nghymru. Mae gofyn i’r Asiantaeth ystyried cyngor y Pwyllgor Cynghori wrth gyflawni ei swyddogaethau neu gynghori Gweinidogion.
Mae’r Pwyllgor Cynghori wedi ymrwymo i weithredu mewn ffordd agored a thryloyw a bydd yn cyhoeddi’r cyngor y mae’n ei ddarparu i’r Asiantaeth ar bolisi bwyd a’i weithredu (yn y cofnodion a restrir isod), lle nad yw’r cyngor hwnnw yn cael ei gyhoeddi drwy gyfrwng cofnodion y Bwrdd neu mewn modd arall.
Cyfarfodydd 2010
22 Gorffennaf 2010 – Maes Sioe Frenhinol Cymru, Canolbarth Cymru
4 Tachwedd 2010 – Prifysgol Bangor, Gogledd Cymru
Cyfarfodydd 2011
20 Ionawr 2011 – Asiantaeth Safonau Bwyd, Swyddfa Caerdydd (Thema heb ei phennu)
17 Mawrth 2011 – Asiantaeth Safonau Bwyd, Swyddfa Caerdydd (Gorfodi mewn Awdurdodau Lleol)
19 Mai 2011 – Gogledd Cymru, lleoliad i’w gadarnhau (Thema heb ei phennu)
7 Gorffennaf 2011 – Canolbarth Cymru, lleoliad i’w gadarnhau (Thema heb ei phennu)
1 Medi 2011 – Asiantaeth Safonau Bwyd, Swyddfa Caerdydd (Thema heb ei phennu)
10 Tachwedd 2011 – Asiantaeth Safonau Bwyd, Swyddfa Caerdydd (Thema heb ei phennu)
Cofrestru eich diddordeb
Os ydych am gofrestru eich diddordeb mewn mynychu un o’r cyfarfodydd hyn, e-bostiwch: WalesAdminTeam@foodstandards.gsi.gov.uk (drwy ddatgan y dyddiad(au) sydd o ddiddordeb i chi)
Find out more
Cyfarfodydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Cyfarfodydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
