This snapshot, taken on
27/09/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.
Text only

Nicel


nuts Elfen hybrin yw nicel sydd i’w chanfod yn eang yn yr amgylchedd. Mae ffynonellau nicel da yn cynnwys ffacbys, ceirch a chnau.


Faint sydd ei angen arnaf i?

Dylech allu cael yr holl nicel sydd ei angen arnoch chi o’ch deiet bob dydd.

Beth mae’n ei wneud?

  • mae’n dylanwadu ar faint o haearn mae’n cyrff yn ei amsugno o’r bwydydd rydyn ni’n eu bwyta
  • gall fod yn bwysig o ran helpu i wneud celloedd coch y gwaed hefyd


Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?

Gall hyd at 10% o bobl y DU fod ag alergedd i nicel sy’n achosi brech croen (dermatitis).

Fel rheol, achosir hyn gan emwaith neu arian sy’n cynnwys nicel, ond gall nicel mewn bwyd neu atchwanegiadau achosi brech os oes gennych alergedd iddo.

Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Dylech allu cael yr holl nicel sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys.

Os byddwch chi’n cymryd atchwanegiadau nicel, a fydd yn golygu cael nicel heb fwyd ac ar stumog wag fel rheol, bydd mwy o’r nicel yn cael ei amsugno.

Felly, mae’n syniad da i osgoi cymryd atchwanegiadau nicel os oes alergedd i nicel, neu os ydych chi’n amau bod gennych chi alergedd.

Nid yw’r nicel rydyn ni’n ei gael o fwyd yn naturiol yn debygol o fod yn niweidiol.