bwyd-rwyd
DVD-ROM rhyngweithiol yw bwyd-rwyd, a ddatblgwyd i helpu athrawon i annog pobl ifanc (9 i 11 oed) i ddysgu am labelu bwyd yng nghyd-destun bwyta'n iach a deiet cytbwys.
Mae'r DVD-ROM yn cynnwys bwyd-rwyd rhyngweithiol, ardal athrawon gyda nodiadau i athrawon, cynlluniau gwersi, taflenni disgyblion, cyflwyniadau sleid a fideos datblygu proffesiynol (yr olaf yn Saesneg yn unig). Mae bwyd-rwyd wedi'i ddylunio i fod yn gyfoes ac yn llawn hwyl, ac yn gyfrwng i ddisgyblion ddysgu sut i wneud dewisiadau iach, diogel am fwyd.
Nod bwyd-rwyd yw:
- helpu plant i gael hwyl wrth ddysgu am labeli bwyd drwy ddefnyddio elfennau rhyngweithiol gan gynnwys fidoes coginio a gemau
- ymgysylltu â phobl ifanc drwy greu gofod tebyg i safle rhyngweithio ar-lein lle mae pobl ifanc yn ‘cyfarfod’ ac yn rhannu eu syniadau am fwyd, gweithgarwch a bywyd
- cefnogi ac ategu holl gwricwla y DU, gyda chysylltiadau â gwyddoniaeth, ABIRh/ABCh/datblygu personol a dylunio a thechnoleg, yn ogystal â holl feysydd Cymraeg a Saesneg, Mathemateg a TGCh
- ymateb i ymchwil ar Fframwaith Cymwyseddau Bwyd yr Asiantaeth, a ddangosodd nad oes cysondeb o ran dysgu am labeli bwyd ymysg pobl ifanc.
Mae’r nodiadau i athrawon yn rhoi cyflwyniad i'r bwyd-rwyd, cynlluniau gwersi manwl a chysylltiadau â’r cwriclwm. Gallwch lawrlwytho’r nodiadau i athrawon yn y ddolen isod.
Mae’r gêm ‘Deall labeli’ yn rhan o adran ryngweithiol bwyd-rwyd. Mae’n cyflwyno’r labeli sydd i’w cael ar flaen pecynnau ac yn galluogi disgyblion i ddarllen y rhestrau cynhwysion a’r wybodaeth am faeth a dyfalu pa oleuadau traffig fyddai’n ymddangos ar amrywiaeth o fwydydd. I chwarae’r gêm, cliciwch drwy'r ddolen isod. (Ar gael yn fuan)
I archebu copi o DVD-ROM bwyd-rwyd yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Chyhoeddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar 0845 606 0667 neu anfonwch e-bost: foodstandards@ecgroup.co.uk gan nodi’r rhifau cyhoeddi canlynol:
Fersiwn Gymraeg:
DVD-ROM bwyd-rwyd: FSA/1314/0209
Fersiynau Saesneg:
Myfoodspace teachers' centre booklet and DVD-ROM: FSA/1284/0908
Myfoodspace DVD-ROM: FSA/1285/0908
Mae rhagor o wybodaeth am fframwaith cymwyseddau’r Asiantaeth yn y ddolen isod:
