Adnoddau ar gyfer Ysgolion Cynradd: Oedrannau 7 i 9
Monday 17 August 2009
Mae’r adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd yn helpu plant i ddysgu am ddeiet iach a chytbwys, bod yn ddiogel yn y gegin, datblygu a defnyddio sgiliau coginio sylfaenol, megis plicio, sleisio a chymysgu, yn ogystal â dysgu plant am labelu bwyd ac o ble y daw eu bwyd.
Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys cyfres o bedwar o siartiau targed sy’n gysylltiedig â phob un o’r cymwyseddau bwyd ac maent wedi’u hategu â chanllaw i athrawon ar sut i’w defnyddio, canllaw cyflawni a thystysgrif y gellir ei lawrlwytho. Mae cyfres o daflenni gwaith ar gael hefyd i gyd-fynd â'r siartiau, a gellir eu lawrlwytho isod.
Get Adobe Acrobat readerYou may need the free Acrobat Reader to view a pdf
