Dewis di
Wednesday 24 June 2009
CD-ROM rhyngweithiol yw Dewis di, a ddatblygwyd i helpu athrawon i sicrhau bod dysgu am fwyd yn hwyl i bobl ifanc (11 i 12 oed). Wedi’i lywio gan adborth disgyblion, mae’r adnodd yn cyflwyno dewisiadau bwyd iachach mewn ffordd y bydd y dosbarth yn ei mwynhau.
Mae’r CD-ROM yn cynnwys taith rithiol wedi’i rhannu’n dair pennod, gweithgareddau sy’n trafod peryglon hylendid a delwedd y corff a chyfres o gemau rhyngweithiol. Ceir Nodiadau i Athrawon hefyd.
Y nod wrth ddatblygu Dewis di oedd:
- bod yn hyblyg ac yn ymarferol er mwyn i athrawon allu dewis a chynllunio’r ffordd fwyaf addas o’i ddefnyddio, naill ai gyda’r dosbarth cyfan neu gyda grŵp
- cefnogi disgyblion i astudio ar eu pen eu hunain yn annibynnol er mwyn iddynt allu cymryd eu hamser i ddysgu a phrofi eu gwybodaeth
- cefnogi’r cwricwlwm gyda chysylltiadau perthnasol i dechnoleg bwyd, economeg y cartref, gwyddoniaeth, addysg iechyd personol ac addysg gorfforol
- integreiddio â’r dull o addysgu am fwyd sy’n cynnwys yr ysgol gyfan.
Mae’r Nodiadau i Athrawon yn cynnwys cyflwyniad i Dewis di, cynlluniau gwersi manwl a chysylltiadau â’r cwricwlwm. Gallwch lawrlwytho’r nodiadau i athrawon drwy'r ddolen isod.
I archebu copïau o CD-ROM Dewis Di, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Chyhoeddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar 0845 606 0667 neu anfonwch e-bost: foodstandards@ecgroup.co.uk gan roi rhif cyhoeddiad Dewis Di: FSA/1321/0209.
Neu, i gael rhagor o wybodaeth am yr adnodd, mae croeso i chi gysylltu â'n Huned Iaith drwy anfon e-bost at: welsh.translation@foodstandards.gsi.gov.uk
Blas ar Dewis di...
Gallwch chwarae dau o gemau Dewis di drwy glicio yma (ar gael yn Gymraeg yn fuan):
- Gêm cydbwyso egni – Mae'r weithgaredd hon yn helpu disgyblion i feddwl am geisio cydbywso'r egni maent yn ei gael.
- Peryglon hylendid – Mae'r gêm hon yn rhoi'r disgybl yn y gegin er mwyn archwilio a nodi cymaint o beryglon hylendid a diogelwch â phosibl mewn dau funud.
Os nad ydych chi'n gallu gweld y gemau, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho meddalwedd 'Adobe Flash Player' neu gael y fersiwn ddiweddaraf ohoni. ![]()
