Pecyn Athrawon Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru (ASB Cymru)
Tuesday 24 November 2009
Mae’r pecyn yn orlawn o adnoddau a fydd yn helpu athrawon wrth iddynt addysgu plant i wneud dewisiadau bwyd iachach a diogel.
Mae’r pecyn yn cynnwys gweithgareddau bwrdd gwyn, DVD o bantomeim a mynediad at gatalog o gemau rhyngweithiol ar-lein i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth (mae dolenni at y gemau hyn i'w gweld isod). Caiff y rhain oll eu cefnogi gan gynlluniau gwersi, taflenni gwaith a gweithgareddau ymestynnol trawsgwricwlaidd sy’n helpu i gyflwyno negeseuon allweddol yr Asiantaeth ar themâu megis y plât bwyta’n iach, labelu ar flaen pecynnau bwyd a’r Hanfodion Diogelwch Bwyd: Glanhau, Coginio, Oeri a Chroeshalogi. Mae’r Pecyn hefyd yn cynnwys adran ar anghenion deietegol arbennig sy’n trafod alergenau, deiet pobl o wahanol gefndiroedd ethnig a chanllawiau ar sut i drin, paratoi a gweini bwyd yn yr ystafell ddosbarth ynghyd â chopi o’r Fframwaith Cymwyseddau Bwyd. Mae’r Pecyn hefyd yn cyfeirio athrawon at ffynonellau gwybodaeth ac adnoddau addysgu pellach.
Datblygwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol i gefnogi gwaith ASB Cymru mewn ysgolion. Ond mae’r pecyn athrawon wedi bod yn hynod ddefnyddiol fel adnodd addysgu ar ei ben ei hun mewn ysgolion yn gyffredinol wrth drafod maes diogelwch bwyd a bwyta’n iach.
Noder mai dim ond ysgolion Cymru gaiff wneud cais am DVD y pantomeim. Niferoedd cyfyngedig sydd ar gael.
I archebu copïau o gyhoeddiadau’r Asiantaeth y cyfeirir atynt yn y pecyn adnoddau, ewch i adran gyhoeddiadau’r wefan.
