Cymwyseddau bwyd ar gyfer pobl ifanc
Gall cymwyseddau bwyd helpu pobl ifanc i ddewis, coginio a bwyta bwyd diogel ac iach. Amlinellir y cymwyseddau bwyd mewn fframwaith o sgiliau a gwybodaeth graidd i blant a phobl ifanc. Mae hyn yn helpu i nodi’r conglfeini hanfodol er mwyn i ysgolion a sefydliadau cymunedol allu rhoi cyfres o sgiliau a gwybodaeth gyson i blant am fwyd.
‘Yr Asiantaeth yn Addysgu ’
O fewn y themâu deiet ac iechyd, ymwybyddiaeth defnyddwyr, coginio (paratoi bwyd ac ymdrin â bwyd) a diogelwch bwyd, mae’r fframwaith yn berthnasol i bobl ifanc rhwng 5 ac 16+ oed. Mae hefyd yn cwmpasu materion bwyd ehangach gan adlewyrchu barn yr ASB a’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad, a gynhaliwyd yn ystod y broses o ddatblygu’r fframwaith.
Mae’r cymwyseddau bwyd yn cefnogi gwaith ehangach Llywodraeth y DU sydd wedi ei anelu at wella iechyd pobl ifanc a bydd yn cyfrannu tuag at helpu ysgolion i ddatblygu ‘ymagwedd ysgol gyfan’ tuag at ddeiet ac iechyd. Oherwydd eu bod yn datblygu ac yn cronni o un cam oedran i’r llall, gall y cymwyseddau helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau iachach sydd o fudd iddynt nawr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.
Yn anad dim, mae’r cymwyseddau’n berthnasol i bob profiad dysgu, yn yr ysgol a’r tu allan iddi, a gellir eu bodloni gartref neu drwy weithgareddau eraill.
Mae’r cymwyseddau bwyd yn cael eu defnyddio a’u hyrwyddo drwy rwydwaith o ymarferwyr ledled y DU, fel rhaglen Be’ Sy’n Coginio yr ASB, y Bws Coginio, Rhaglenni Ysgolion iach a rhaglenni clybiau coginio eraill.
Mae’r ASB yn gweithio gyda phartneriaid eraill hefyd ac yn annog sefydliadau perthnasol eraill i ddefnyddio’r cymwyseddau bwyd.
Maer’ cywyddau bwyd yn dod o fewn egwyddorion craidd yr ASB, sy’n amlinellu amcanion sylfaenol yr Asiantaeth o ran ei gwaith gydag ysgolion ledled y DU.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymwyseddau bwyd defnyddiwch y tablau canlynol.
Cymwyseddau bwyd yn ôl thema
| Deiet ac iechyd | |
|---|---|
| Erbyn iddynt gyrraedd 7-9 oed dylai plant: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 11-12 oed dylai plant: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 14 oed, dylai disgyblion: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 16+ oed, dylai myfyrwyr: |
|
| Ymwybyddiaeth defnyddwyr | |
|---|---|
| Erbyn iddynt gyrraedd 7-9 oed, dylai plant: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 11-12 oed, dylai plant: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 14 oed dylai disgyblion: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 16+ oed, dylai myfyrwyr: |
|
| Coginio (Sgiliau paratoi bwyd ac ymdrin â bwyd) | |
|---|---|
| Erbyn iddynt gyrraedd 7-9 oed, dylai plant: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 11-12 oed, dylai plant: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 14 oed, dylai plant: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 16 oed, dylai myfyrwyr: |
|
| Diogelwch bwyd | |
|---|---|
| Erbyn iddynt gyrraedd 7-9 oed, dylai plant: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 11-12 oed, dylai plant: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 14 oed, dylai plant: |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 16 oed, dylai myfyrwyr: |
|
Cymwyseddau bwyd yn ôl grŵp oedran
Rydych wedi dewis edrych ar y cymwyseddau bwyd yn ôl y grŵp oedran y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Mae’r ystodau oedran yn dangos y cyfnodau dysgu allweddol mewn ysgolion ar draws y DU.
Mae plant yn dysgu o oedran cynnar iawn – mae’r fframwaith cymwyseddau bwyd wedi’i anelu’n gyffredinol at blant 5 oed a throsodd.
| Erbyn iddynt gyrraedd 7-9 oed, dylai plant: | |
|---|---|
| Deiet ac iechyd |
|
| Ymwybyddiaeth defnyddwyr |
|
| Coginio (Sgiliau paratoi bwyd ac ymdrin â bwyd) |
|
| Diogelwch bwyd |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 11-12 oed, dylai plant: | |
|---|---|
| Deiet ac iechyd |
|
| Ymwybyddiaeth defnyddwyr |
|
| Coginio (Sgiliau paratoi bwyd ac ymdrin â bwyd) |
|
| Diogelwch bwyd |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 14 oed, dylai disgyblion: | |
|---|---|
| Deiet ac iechyd |
|
| Ymwybyddiaeth defnyddwyr |
|
| Coginio (Sgiliau paratoi bwyd ac ymdrin â bwyd) |
|
| Diogelwch bwyd |
|
| Erbyn iddynt gyrraedd 16+ oed, dylai myfyrwyr: | |
|---|---|
| Deiet ac iechyd |
|
| Ymwybyddiaeth defnyddwyr |
|
| Coginio (Sgiliau paratoi bwyd ac ymdrin â bwyd) |
|
| Diogelwch bwyd |
|
