Cyhoeddi'r adolygiad o ymyriadau deietegol ymhlith Grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o ymyriadau deietegol ymhlith grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ar draws y DU.
Nod cyffredinol y gwaith oedd dadansoddi’r sefyllfa o ran pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, adolygu’r ymyriadau deietegol ymhlith grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ac argymell yr ymyriadau a’r modelau a allai fod fwyaf addas i’w treialu ymhlith cymunedau ethnig yng Nghymru.
Mae’r adolygiad yn gwneud chwe argymhelliad o ran ymyriadau deietegol ymhlith grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y dyfodol:
- Dylai unrhyw werthusiad o ymyriadau deietegol ymhlith grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig ddefnyddio methodoleg ymchwil gadarn a phriodol.
- Os nad oes cyllid digonol ar gael i gynnal gwerthusiad da, dylid gwneud pob ymdrech i gydweithio ag asiantaethau neu grwpiau eraill i sicrhau bod mwy o gyllid ar gael.
- Dylid ystyried cynyddu nifer y bobl dduon a phobl o leiafrifoedd ethnig sy’n rhan o werthusiadau o ymyriadau deietegol ymhlith y boblogaeth gyffredinol, a hynny er mwyn nodi casgliadau sy’n berthnasol i’r grwpiau hyn. Y ffordd orau o wneud hyn, yn realistig, yw canolbwyntio ar un o’r grwpiau ethnig.
- Rhaid sicrhau bod y dulliau gwerthuso a ddefnyddir yn briodol ac yn ddilys ar gyfer grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig penodol e.e. technegau mesur dognau bwyd a argymhellir.
- Dylai unrhyw ymyriadau deietegol a werthusir ymhlith grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y dyfodol nodi’n glir y sylfeini damcaniaethol a ddefnyddiwyd i strwythuro’r ymyriad ac i ddatblygu’r elfennau newid ymddygiad.
- Dylai unrhyw ymyriadau deietegol a werthusir ymhlith grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y dyfodol asesu eu heffeithiolrwydd o ran cost, y graddau y gellir cyffredinoli o fewn grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, a chynaliadwyedd (yn ogystal ag effeithiolrwydd o ran newid ymddygiad, statws maeth, neu ffactorau sy’n ymwneud ag agwedd). Dylai’r ymyriadau hefyd ymgorffori nodweddion prosiectau llwyddiannus (gweler uchod), os ydynt yn berthnasol.
Mae ASB Cymru wrthi ar hyn o bryd yn ystyried sut i weithredu ar yr argymhellion a wnaed.
Mae'r adroddiad sy'n cyd-fynd â'r adolygiad wedi’i rannu’n ddwy ran. Mae Rhan 1, sy’n dadansoddi sefyllfa'r grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn trafod: lefelau llythrennedd ymhlith gwahanol grwpiau, yr ieithoedd a ddeallir, unrhyw faterion diwylliannol penodol y mae angen eu hystyried wrth gynllunio gweithgareddau i gysylltu â chymunedau o’r fath, iechyd sy’n gysylltiedig â deiet, ynghyd â’r lefelau bwyd a maethynnau a argymhellir.
Mae Rhan 2 yn adolygu’r ymyriadau deietegol a werthuswyd yn y DU sy’n targedu grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, ynghyd ag ymchwil a nodir mewn dogfennau a gyhoeddwyd. Yn ogystal, ymchwiliwyd i 'lenyddiaeth lwyd', sef gwybodaeth a gynhyrchir gan lywodraeth, ysgolheigion, busnes a diwydiant nad ydynt yn cael eu rheoli gan brosesau cyhoeddi masnachol, a chasglwyd rhagor o wybodaeth gan rwydweithiau a chysylltiadau perthnasol.
Mae'r Adroddiad i'w weld isod (Saesneg yn unig).
Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Meredith
Ffôn: 029 2067 8950
E-bost: sarah.meredith@foodstandards.gsi.gov.uk
