Dechrau Coginio
Thursday 29 September 2005
Nod 'Dechrau Coginio' yw darparu pecyn i hyfforddwyr ei ddefnyddio i ddysgu sgiliau coginio sylfaenol yn y gymuned i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.
Y nod yw rhoi iddynt:
- ymdeimlad o gyflawniad
- mwy o hyder i goginio
- profiad dymunol
Caiff y pecyn ei gyflwyno mewn cyfres o chwe sesiwn wythnosol ac erbyn diwedd y cwrs rydym yn gobeithio y bydd y bobl ifanc yn ddigon hyderus i goginio dros eu hunain. Mae disgwyl iddynt ddeall rhai egwyddorion sylfaenol am fwyta'n iach a hylendid bwyd hefyd er mwyn iddynt allu eu defnyddio i ddiogelu ei hiechyd a'u lles.
Get Adobe Acrobat readerYou may need the free Acrobat Reader to view a pdf
