Halen
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn bwyta gormod o halen. Gall hyn godi pwysau gwaed, sy'n cynyddu'r risg o glefyd y galon a strôc. Gallwn ni gyd gymryd camau i fwyta llai o halen drwy siopa'n ddoeth a rhoi llai o halen ar ein bwyd wrth y bwrdd. Ewch i'n gwefan ddwyieithog i gael rhagor o wybodaeth a chyngor am leihau halen - cofiwch glicio ar Cymraeg!
Halen - Oes gen ti ormod ar dy blât?
Mae'r Asiantaeth yn cynnal ymgyrch bwysig i godi ymwybyddiaeth, a lleihau faint o halen sydd yn ein deiet ni yn y DU. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch hon i'w chael isod, yn ogystal â chopïau o'r adnoddau defnyddiol a gyhoeddwyd ar gyfer ymgyrch 2009.
Gwefan bwyta'n iach yr Asiantaeth...
Mae adran 'Halen' arbennig ar gael ar ein gwefan bwyta'n iach, eatwell.gov.uk. Cofiwch glicio ar 'Cymraeg'!
Find out more
Gweithgaredd y diwydiant
Mae tua 75% o’r halen yr ydym yn ei fwyta eisoes yn y bwyd a brynwn – mae’r rhan fwyaf ohono mewn bwydydd wedi’u prosesu. Mae’r ASB wedi bod yn gweithio gyda’r diwydiant bwyd i’w annog i leihau’r halen yn y bwydydd hyn.
Ymgyrch Halen yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o halen fel mater sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, ac i gynghori defnyddwyr ar sut i leihau’r halen yn eu deiet, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi bod yn cynnal ymgyrchi i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ers 2004, gyda gwybodaeth a chyngor i ddefnyddwyr ar gael ar ein gwefannau.
