This snapshot, taken on
28/09/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y broses o wneud cais am forgais

Unwaith y byddwch yn gwybod oddeutu faint yr ydych eisiau'i fenthyg ac wedi penderfynu ar eich benthyciwr, mae camau allweddol i'w dilyn i gael morgais. Mae'r rhain yr un fath pa un a ydych yn benthyg am y tro cyntaf neu'n newid eich benthyciwr.

Camau allweddol yn y broses o wneud cais am forgais

Os ydych yn deall y broses gwneud cais, gallwch fod yn barod gyda phopeth y bydd y benthyciwr ei angen. Gall hyn gyflymu'r broses o wneud cais am eich morgais.

Cael penderfyniad mewn egwyddor

Gallwch gael 'penderfyniad mewn egwyddor' gan fenthyciwr hyd yn oed cyn ichi ddewis eich eiddo terfynol. Dengys hwn a ydynt yn barod i fenthyca arian ichi neu beidio a faint. Seilir y penderfyniad ar wybodaeth a roddwch am y canlynol:

  • eich incwm
  • eich statws cyflogaeth
  • y math o eiddo yr ydych am ei brynu

Gall y rhan fwyaf o fenthycwyr roi penderfyniad mewn egwyddor i chi ar-lein yn ogystal â thrwy'r post. (Mae archwiliad credyd yn cael ei wneud ar gyfer penderfyniadau mewn egwyddor, a fydd yn dangos ar eich cofnod credyd. Os oes llawer ohonynt yn ymddangos ar eich cofnod credyd efallai y bydd yn effeithio ar eich siawns i gael morgais, felly peidiwch â gofyn am un hyd nes y byddwch wedi penderfynu ar eich benthyciwr.)

Peidiwch byth â chael eich temtio i or-ddweud beth yw eich incwm. Gallech gael eich hun gyda morgais na fyddwch yn gallu ei fforddio.

Dewis cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig

Bydd angen rhywun arnoch i ddelio gydag ochr gyfreithiol y gwaith - chwiliadau lleol, llunio contractau a gwaith papur cyfreithiol arall. Gallech ddefnyddio cyfreithiwr trawsgludo neu drawsgludwr trwyddedig - neu hyd yn oed wneud rhan o'r gwaith eich hun (ond sicrhewch eich bod yn gwybod beth fydd hyn yn ei olygu). Mae gan rai benthycwyr gyfreithwyr y mae'n well ganddynt eu defnyddio, neu efallai y bydd rhywun yn cael ei argymell i chi. Gallwch hefyd chwilio ar-lein neu yn y llyfr ffôn. (Bydd y benthyciwr yn mynnu eich bod yn defnyddio trawsgludwr proffesiynol i wneud y prisio.)

Gwneud cais llawn am forgais

Ar ôl ichi benderfynu prynu eiddo, byddwch yn gwneud cais llawn am forgais drwy lenwi a dychwelyd ffurflen y benthyciwr (gallwch weithiau wneud hyn dros y ffôn). Fel arfer byddant hefyd eisiau gweld tystiolaeth o'ch incwm, pwy ydych chi, eich cyfeiriad cyfredol a (lle bo'n berthnasol) geirda gan fenthyciwr neu landlord blaenorol. Efallai hefyd y byddant yn codi ffi nad oes modd ei hawlio'n ôl ar gyfer eu costau ac i dalu am brisiwr.

Oni allwch brofi bod gennych incwm rheolaidd (efallai oherwydd eich bod yn hunangyflogedig a heb ddigon o gyfrifon) efallai y gallwch gael morgais 'hunandystiolaeth'. Bydd angen blaendal mwy arnoch oherwydd yn aml ni fyddwch yn gallu benthyg mwy na 75 i 85 y cant o werth yr eiddo. Efallai y bydd y benthyciwr am gael rhywfaint o dystiolaeth o hyd o'ch gallu i dalu.

Archwiliadau geirda

Efallai y gall eich benthyciwr gael geirdaon ysgrifenedig gan eich cyflogwr a'ch banc (neu gyfrifydd os ydych yn hunangyflogedig) a'ch landlord neu'ch benthyciwr presennol. Byddant hefyd yn cynnal archwiliadau credyd i sicrhau eich bod wedi talu'ch dyledion yn y gorffennol.

Prisio eiddo

Bydd eich benthyciwr fel arfer yn prisio'r eiddo i sicrhau ei fod werth y pris yr ydych wedi cytuno i'w dalu. Os nad yw, gallai effeithio ar faint y byddant yn ei fenthyca i chi. Fe'ch cynghorir i gael arolwg eich hun hefyd - neu i 'uwchraddio' arolwg prisio'r benthyciwr i un manylach.

Y cynnig morgais

Os yw'r benthyciwr yn hapus gyda'r prisio a'r geirdaon, byddwch yn cael cynnig ffurfiol - a anfonir atoch chi a'ch cyfreithiwr fel arfer. Pan fyddwch chi (neu eich cyfreithiwr ar eich rhan) wedi llofnodi a dychwelyd y dogfennau gyda'r cynnig, mae'r benthyciwr wedi ymrwymo i ddarparu'r arian. Mae'r cynnig ar gyfer y morgais fel arfer yn mynnu eich bod yn cymryd yswiriant adeiladau, rhag ofn i rywbeth ddigwydd i'r eiddo cyn ichi orffen talu am y morgais.

Cyfnewid a chwblhau

Os ydych yn prynu, unwaith i chi dderbyn cynnig ffurfiol ar gyfer cael morgais, gall eich cyfreithiwr gytuno ar ddyddiad ar gyfer 'cyfnewid contractau' gyda chyfreithiwr y gwerthwr. Yr adeg yma rydych fel arfer yn talu canran o'r pris prynu fel blaendal nad oes modd ei ad-dalu ac yn ymrwymo'ch hun i dalu'r gweddill ar y dyddiad cwblhau y cytunir arno (pan ddaw'r eiddo yn eiddo i chi).

Gwneud cais am forgais ar-lein

Efallai y gallwch wneud cais am eich morgais ar-lein, ac olrhain ei drywydd ar-lein. Os cawsoch eich penderfyniad-mewn-egwyddor ar-lein, bydd eich manylion allweddol wedi'u llenwi ar y brif ffurflen gais yn barod fel arfer.

Gwneud cais am forgais yn yr Alban

Yn yr Alban, gallwch drefnu'ch morgais cyn ichi wneud cynnig ar eiddo.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Terfyn o 500 nod

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU