Cynllun 'Scores on the Doors'
Mae’n bwysig iawn bod pob busnes bwyd yn cydymffurfio â’r gyfraith ac yn cyflenwi bwyd sydd yn ddiogel i’w fwyta. Mae defnyddwyr mewn rhai ardaloedd eisoes yn gallu gweld pa mor dda y mae busnes bwyd yn cydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd, a hynny drwy gyfrwng cynlluniau ‘Scores on the Doors’ sy’n cael eu cynnal gan eu hawdurdod lleol.
Prif bwrpas cynlluniau ‘Scores on the Doors’ yw galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus mewn safleoedd bwyd wrth fwyta allan neu brynu bwyd a, thrwy hynny, annog busnesau i wella safonau hylendid.
Mae swyddogion gorfodi awdurdodau lleol yn gyfrifol am archwilio busnesau bwyd i sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol o ran hylendid bwyd. O dan gynlluniau ‘Scores on the Doors’, mae pob safle bwyd yn cael ei sgorio o ran hylendid, a gellir arddangos y sgôr hwn ar y safle lle y gall defnyddwyr ei weld. Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefannau lle gall defnyddwyr weld sgôr busnesau yn eu hardal leol.
Ar hyn o bryd, mae gan fwy na 200 o awdurdodau lleol ledled y DU gynlluniau ‘Scores on the Doors’ ar waith. Mae’r cynlluniau hyn yn amrywio o ran eu dyluniad a’r modd y cânt eu gweithredu. O’r herwydd, mae’r Asiantaeth yn gweithio i geisio creu un cynllun cenedlaethol er mwyn atal rhagor o anghysondebau rhwng gwahanol drefniadau mewn gwahanol ardaloedd, gan sicrhau cysondeb i ddefnyddwyr ac eglurder i fusnesau.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod haf 2008, cytunodd Bwrdd yr ASB y dylid sefydlu cynllun ‘Scores on the Doors’ chwe haen cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan fod y rhan fwyaf o’r cynlluniau sydd eisoes ar waith yn y gwledydd hyn yn seiliedig ar y dyluniad hwn. Bydd cynllun dwy haen yn parhau yn yr Alban yn unol â safbwynt cyffredin y defnyddwyr.
Sefydlwyd Grŵp Llywio y DU gyfan, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol, y diwydiant yn ogystal â’r defnyddwyr eu hunain, i oruchwylio’r broses o ddatblygu cynllun chwe haen cenedlaethol ac i sicrhau bod y cynllun chwe haen yn gyson â’r cynllun dwy haen sy’n parhau yn yr Alban.
Mae Swyddogion Polisi wrthi'n ymgynghori ar deitl swyddogol a therfynol y cynllun hwn ar hyn o bryd. O'r herwydd, nid oes teitl Cymraeg wedi'i fathu eto, ond byddwn yn diweddaru'r wefan hon gydag unrhyw ddatblygiadau maes o law.
Find out more
Cynllun ‘Scores on the Doors’ yng Nghymru
Yng Nghymru, mae dau awdurdod lleol yn cynnal cynlluniau ‘Scores on the Doors’ ar hyn o bryd.
Cynllun ‘Scores on the Doors’: Atebion i’ch cwestiynau
Atebion i gwestiynau cyffredin am gynllun ‘Scores on the Doors’.
Grŵp Llywio Cynllun ‘Scores on the Doors’ y DU Gyfan
Sefydlwyd Grŵp Llywio Cynllun ‘Scores on the Doors’ y DU Gyfan i gynghori’r Asiantaeth am ddatblygiad y cynllun cenedlaethol a’r camau i’w weithredu.
Templedi a thaflen ar gyfer rhoi gwybod i fusnesau ac aelodau’r cyngor am y cynllun cenedlaethol
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi creu templedi llythyrau a thaflen y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i roi gwybod i fusnesau bwyd y bydd y Cynllun Sgorio Hylendid Busnesau Bwyd ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael ei roi ar waith yn yr ardal. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar gyfer briffio aelodau cyngor etholedig.
