Nodiadau Canllaw yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar labelu sbrediau braster, gan gynnwys marjarîn a menyn (Cymru)
Thursday 24 September 2009
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Sarah Meredith
Cangen: Iechyd Deietegol a Dewis i Ddefnyddwyr
Llawr 11, Tŷ Southgate
Wood Street, Caerdydd
CF10 1EW
Ffôn: 029 2067 8950
Ffacs: 029 2067 8919
E-bost: sarah.meredith@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 3 Rhagfyr 2009
Manylion yr ymgynghoriad
Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?
Diwydiant a gweithgynhyrchwyr bwyd sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu cynnyrch llaeth a brasterau taenadwy / sbred braster llysiau. Awdurdodau Gorfodi, Safonau Masnach, Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd ac Awdurdodau Lleol.
Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?
Nodiadau Canllaw yr ASB ar y gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r rheolau ar feini prawf labelu a chynnwys brasterau taenadwy, gan gynnwys marjarîn a menyn.
Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?
Ceisio’n ffurfiol sylwadau a barn rhanddeiliaid ar y canllawiau drafft a ddiweddarwyd ar labelu brasterau taenadwy, gan gynnwys marjarîn a menyn.
Mae’r Asiantaeth yn ceisio barn ar y Nodiadau Canllaw drafft sy’n disgrifio’r rheolau labelu a marchnata cynnyrch llaeth a brasterau taenadwy a nodir yn Rheoliad y Cyngor Ewropeaidd (CE) Rhif 1234/2007, sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin y marchnadoedd amaethyddol ac sy’n ymwneud â darpariaethau penodol ar gyfer rhai cynhyrchion amaethyddol (Rheoliad Sefydliadau'r Farchnad Gyffredin (CMO) Sengl) .
Mae’r Nodiadau Canllaw wedi’u drafftio i ystyried Adolygiad Anderson.
Ar 1 Gorffennaf 2008, daeth Rheoliad y Cyngor 1234/2007 i rym; cafodd Rheoliad y Cyngor 1898/87 (ar amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth) a 2991/94 (sy’n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy) eu diddymu a daeth Offeryn Statudol 2008 Rhif 1341 (C.141): Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Rheoliadau Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Amddiffyn Dynodiadau) (Cymru) 2008 i rym (gyda deddfwriaeth debyg yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon).
Mae Rheoliad y Cyngor 1234/2007 yn uniongyrchol berthnasol yn y DU ac mae darpariaethau gorfodi wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth genedlaethol.
Nid oedd OS Rhif 1341 (C.141) yn gwneud dim mwy na diweddaru unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau’r Cyngor 1898/87 a 2991/94, er mwyn cyfeirio at Reoliad newydd y Cyngor, sef 1234/2007. O ganlyniad, ni chynhaliodd yr Asiantaeth ymgynghoriad ffurfiol llawn ar yr OS newydd na chynhyrchu Asesiad Effaith (AE) gan nad oedd unrhyw gostau ychwanegol neu gynyddraddol ar y sector preifat na’r sector cyhoeddus. Nid yw’r Asiantaeth yn cynnwys AE ar gyfer y Nodiadau Canllaw sy’n destun yr ymgynghoriad hwn, gan na fydd y nodiadau canllaw hyn yn rhoi unrhyw faich sylweddol newydd ar y sector preifat na’r sector cyhoeddus.
Yn sgil y diweddariad deddfwriaethol hwn, mae angen diwygio’r Nodiadau Canllaw cysylltiedig. Mae’r Nodiadau Canllaw, sy’n destun yr ymgynghoriad hwn, yn ceisio egluro’n bennaf y rheolau ar labelu brasterau taenadwy a nodir yn Rheoliad y Cyngor 1234/2007.
Mae’r Nodiadau Canllaw hefyd yn mynd i’r afael ag agweddau perthnasol ar Gyfarwyddeb y CE 1019/2002, sy’n nodi’r gofynion ar gyfer labelu bwydydd sy’n cynnwys olew olewydd, a fyddai’n cynnwys rhai brasterau taenadwy.
Y Broses Ymgynghori
Mae’r Asiantaeth wedi cynnal cyfarfodydd a thrafodaethau â Chydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol (LACORS) a’r prif sefydliad masnach ar gyfer braster taenadwy, sef y ‘Margarine and Spreads Association’ . Bydd yr Asiantaeth yn cyhoeddi’r dogfennau ymgynghori ar ei gwefan . Bydd yr ymgynghoriad yn para am 15 wythnos. Anogir pawb sydd â diddordeb i gysylltu â’r Asiantaeth os oes ganddynt unrhyw sylwadau neu ymholiadau. Ni ddisgwylir y bydd unrhyw ymgynghoriadau pellach na gohebiaeth ffurfiol ar y pwnc.
Unwaith y bydd yr holl ymatebion wedi dod i law, bydd yr Asiantaeth yn eu hystyried a naill ai’n eu hymgorffori’n rhan o’r Nodiadau Canllaw neu bydd rhesymau yn cael eu cyflwyno i esbonio pam eu bod wedi’u gwrthod, a rhoddir rhesymau dros eu gwrthod. Caiff yr wybodaeth hon ei chyhoeddi fel dogfen ategol a bydd yn ymddangos ar wefan yr Asiantaeth o fewn 3 mis.
Cwestiynau a gaiff eu holi yn yr ymgynghoriad hwn:
C1: A ydych chi’n fodlon â chynnwys a threfn testun y Nodiadau Canllaw hyn?
C2: A hoffech weld unrhyw destun neu wybodaeth ychwanegol yn rhan o’r ddogfen hon? Nodwch fanylion gan esbonio pam.
Mae’r Asiantaeth yn croesawu pob sylw ac ymateb. Yn arbennig, mae’n annog Awdurdodau Gorfodi a’r Diwydiant i ymateb gyda’u sylwadau, ynghyd â manylion i ategu hynny.
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio holiadur adborth yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd modd i'r cyhoedd weld yr ymatebion ar gais. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Os nad ydych am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech gwblhau'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Dylech nodi ei bod yn bosibl y bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chynnwys yn eich ymateb yn cael ei chyhoeddi neu ei datgelu dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth. Os ydych o'r farn na ddylid datgelu peth o'r wybodaeth a ddarparwyd yn eich ymateb, dylech nodi'r wybodaeth dan sylw, gofyn am beidio â'i datgelu ac egluro pa niwed posibl a all ddeillio o'i datgelu yn eich barn chi.
Os na fyddwch yn gwneud cais am gadw eich ymateb yn gyfrinachol gydag esboniad ym mhrif destun eich ymateb, ni fyddwn yn ystyried unrhyw wadiad cyfrinachedd gan system TG eich sefydliad.
Cyhoeddi Data Personol (Word)
Cyhoeddi data personol (pdf)
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB
E-bost: consultationcoordinator@foodstandards.gsi.gov.uk
