Y Newidiadau A Gynigir I Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2006
Friday 9 November 2007
Yn dilyn y diwygiadau diweddar i Atodlen 6 y Rheoliadau uchod, y cyfeiriwyd atynt yn ein llythyr ymgynghori ar 25 Mehefin, mae'r llythyr hwn yn ceisio'ch barn a'ch sylwadau am ddiwygiadau pellach a gynigir i'r Rheoliadau.
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Trish Booker
Cangen Amaethyddiaeth
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
11eg Llawr, Tŷ Southgate
Stryd Wood
Caerdydd CF10 1EW
Ffôn: 02920 678959
Ffacs: 02920 678918
E-bost: trish.davis@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 2 Ionawr 2008
Manylion yr ymgynghoriad
Dyma’r prif gynigion:
- newidiadau’n codi o gynnig y Comisiwn i godi’r oedran ar gyfer ystyried asgwrn cefn gwartheg (VC) yn ddeunydd risg penodedig (SRM)
- dirymu Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 1997(SI 1997/2959)
- cyflwyno darpariaeth i ganiatáu’r broses o orfodi rheolau’r UE ar fasnachu
- newidiadau i Atodlen 7 i gywiro cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE
Mae’r Rheoliad drafft amgaeedig yn ymgorffori’r newidiadau sy’n ofynnol er mwyn rhoi’r cynigion a nodir ym mharagraff 2 y llythyr hwn ar waith. Cynhelir ymgynghoriad tebyg yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Manylion yr ymgynghoriad
Mae Rheoliad 999/2001 (fel y’i diwygiwyd) Senedd Ewrop a’r Cyngor, (Rheoliadau Enseffelopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) y Gymuned) yn pennu’r rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai mathau o’r clefyd a dyma'r sail gyfreithlon ar gyfer y Rheoliadau TSE domestig sy'n destun yr ymgynghoriad hwn.
Cynnig i godi’r oedran ar gyfer ystyried asgwrn cefn gwartheg yn SRM
Ar hyn o bryd, dan Reoliadau TSE y Gymuned, ystyrir asgwrn cefn gwartheg sy’n hŷn na 24 mis adeg eu difa’n SRM a bod rhaid ei dynnu a’i ddinistrio. Mae’r gofyniad hwn wedi cael ei roi ar waith yng Nghymru dan y Rheoliadau domestig ers mis Mai 2006.
Ym mis Mai 2006, pan lwyddodd y DU i gael yr un statws canolig ag Aelod-wladwriaethau eraill ar gyfer BSE/risg reoledig, cysonwyd rheoliadau SRM y DU â’r rheoliadau sy’n berthnasol mewn Aelod Wladwriaethau eraill. Cyn hynny, yr oedd gan y DU randdirymiad a olygai mai dim ond mewn gwartheg dros 30 mis oed adeg eu difa yr ystyrid bod asgwrn cefn yn SRM. Felly, wrth gysoni’r rheoliadau, newidiwyd terfyn oedran asgwrn cefn o 30 mis i 24 mis.
Mae map ffyrdd TSE yr UE, yn anelu at gynnal lefel uchel o warchodaeth i ddefnyddwyr ac, ar yr un pryd, mae’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng cadw rheolaeth dros SRM a’r risg, gan seilio hynny ar wybodaeth wyddonol newydd neu wybodaeth sy’n esblygu. Fel rhan o hyn, cyhoeddodd Panel Bioberyglon EFSA farn ym mis Mai 2007, lle'r oedd yr asesiad risg yn cynnig tystiolaeth i gefnogi newid y terfyn oedran ar gyfer asgwrn cefn gwartheg. Ar ôl cyhoeddi’r farn hon, cynigiodd Comisiwn Ewrop gynnig i’r Pwyllgor Sefydlog ar y Gadwyn Fwyd ac Iechyd Anifeiliaid (SCoFCAH) i newid y terfyn oedran i 30 mis. Cafwyd pleidlais unfrydol o blaid y cynnig hwn ar 3 Hydref. Yn awr, bydd Senedd a Chyngor Ewrop yn treulio tri mis yn craffu ar y cynnig.
Yr ydym yn ymgynghori ynghylch y cynnig hwn yn fuan fel hyn er mwyn inni allu rhoi'r newid ar waith cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddo ddod i rym dan ddeddfwriaeth yr UE, os bydd canlyniad y broses graffu'n un cadarnhaol.
Os rhoddir y cynnig hwn ar waith, ni fyddai’r gofyniad presennol i gigyddion gael eu hawdurdodi i dynnu SRM asgwrn cefn oherwydd ni ystyrid bod asgwrn cefn gwartheg 24 - 30m yn berthnasol rhagor. Hefyd, caniateid symud carcasau (ag esgyrn ynddynt) anifeiliaid hyd at 30 mis oed, a hynny heb gyfyngiad, gan olygu y gellid cael mwy o hyblygrwydd o ran masnachu ac o ran dewis cwsmeriaid. Fodd bynnag, ni fyddai unrhyw newid yn y gofyniadau o ran carcasau gwartheg sydd dros 30 mis adeg eu difa. Byddai dal angen tynnu’r asgwrn cefn o’r anifeiliaid hyn mewn safleoedd torri sydd ag awdurdod penodol i wneud y gwaith, a byddai’n rhaid cael gwared ar y rhain fel SRM. Mae’r risg ychwanegol i ddefnyddwyr yn sgil y cynnig yn dal i fod yn fychan iawn.
Y cynnig i ddirymu Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 1997
Mae Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 1997 fel y’u diwygiwyd yn Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion (Diwygio) (Cymru) 1999 (SI 1999/3464 [W.52]) yn gwahardd defnyddio esgyrn cig eidion o ffynhonnell yn y DU wrth gynhyrchu bwyd. Y gwaharddiad hwn yw’r darn olaf o ddeddfwriaeth genedlaethol a gyflwynwyd i warchod defnyddwyr rhag y risg o BSE cyn mabwysiadu deddfwriaeth ledled yr UE yn 2001. Mae’r gwaharddiad yn mynd y tu hwnt i'r hyn sy’n ofynnol dan gyfraith yr UE ac ni ellir ystyried bellach ei fod yn cyfrannu’n sylweddol at amddiffyn iechyd y cyhoedd.
Mae rhagor o wybodaeth gefndir, gan gynnwys amlinelliad o'r ystyriaethau ynghylch risg a chrynodeb o safbwyntiau’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Enseffalopathi Sbyngffurf am esgyrn cig eidion, i'w gweld yn Atodiad 6.
Os rhoddir y cynnig hwn ar waith, ni fyddai’r gwaharddiad ar ddefnyddio esgyn cig eidion wrth gynhyrchu bwyd yn berthnasol rhagor.
Manylion y cynnig am reolau masnachu’r UE
Cadwyd gwaharddiad ar ddanfon pennau neu gig ffres gwartheg, anifeiliaid teulu’r ddafad neu anifeiliaid teulu’r afr sy’n cynnwys deunydd risg penodedig, yn Atodiad V Rheoliad (EC) Rhif 999/2001. Er bod darpariaeth ar gyfer y gwaharddiad hwn o ran danfon i drydedd wlad wedi’i chynnwys yn Atodlen 7 Rheoliadau presennol y DU, ni chynhwysir darpariaeth ar gyfer y gwaharddiad hwn o ran masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau. Felly, yn awr, fe’i hychwanegir at Atodlen 6 y ddeddfwriaeth ddiwygio arfaethedig.
Effaith y cynnig hwn yw ei bod yn rhaid i fusnesau gael cytundeb yr Aelod-wladwriaethau (drwy’r FSA) cyn danfon pennau neu garcasau gwartheg, defaid a geifr heb eu hollti sy’n cynnwys deunydd risg penodedig. Fodd bynnag, caiff busnesau ddal i ddanfon carcasau, hanner carcasau neu hanner carcasau sydd heb eu torri’n fwy na thri thoriad a chwarter i’w cyfanwerthu a’r rheini’n cynnwys SRM asgwrn cefn (o anifeiliaid dros 30 mis oed) gan gynnwys ganglia’r nerfau dorsal i Aelod-wladwriaethau, heb gytundeb o’r fath.
Manylion y diwygiad i Atodlen 7
Mae paragraff 2 Atodlen 7 yn cael ei ddiweddaru i gyfeirio at Atodiad V newydd Rheoliadau’r Gymuned.
Effaith y cynigion
Er y caiff newid y terfyn oedran ar gyfer ystyried asgwrn cefn yn SRM effaith er gwell ar y diwydiant a'n bod o'r farn mai ychydig o effaith ymarferol a gaiff y newidiadau eraill a gynigir ar fusnesau a rhanddeiliaid eraill, byddem yn dal i groesawu barn rhanddeiliaid a thystiolaeth ynghylch yr effaith. Yn benodol:
A allai unrhyw un o'r newidiadau gael effaith ariannol (boed hynny'n gost ynteu'n arbediad) ar eich busnes neu ar y diwydiant cig/bwyd drwyddo draw? Os felly, rhowch y manylion
A ddylid croesawu’r cynigion hyn? A fyddech yn cynnig ffyrdd eraill o fynd ati?
Pa fanteision neu anfanteision tebygol sydd i'r cynigion hyn o ran risg i ddiogelwch bwyd?
A ydych yn meddwl bod unrhyw gyfiawnhad dros gynnal y gwaharddiad ar ddefnyddio esgyrn cig eidion y DU?
Beth yw manteision dileu’r gwaharddiad ar ddefnyddio esgyrn cig eidion y DU?
A oes materion eraill yng nghyswllt TSE y dylem fod yn rhoi sylw iddynt?
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio holiadur adborth yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd modd i'r cyhoedd weld yr ymatebion ar gais. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Os nad ydych am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech gwblhau'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Dylech nodi ei bod yn bosibl y bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chynnwys yn eich ymateb yn cael ei chyhoeddi neu ei datgelu dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth. Os ydych o'r farn na ddylid datgelu peth o'r wybodaeth a ddarparwyd yn eich ymateb, dylech nodi'r wybodaeth dan sylw, gofyn am beidio â'i datgelu ac egluro pa niwed posibl a all ddeillio o'i datgelu yn eich barn chi.
Os na fyddwch yn gwneud cais am gadw eich ymateb yn gyfrinachol gydag esboniad ym mhrif destun eich ymateb, ni fyddwn yn ystyried unrhyw wadiad cyfrinachedd gan system TG eich sefydliad.
Cyhoeddi Data Personol (Word)
Cyhoeddi data personol (pdf)
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB
E-bost: consultationcoordinator@foodstandards.gsi.gov.uk
