Swyddfa Aberystwyth
Bydd swyddfa Aberystwyth, un o dair swyddfa newydd Llywodraeth y Cynulliad, yn darparu 7,600 metr sgwâr o le.
Chwith: Llun artist o adeilad newydd Aberystwyth
Ble?
Ffordd Parc-y-Llyn, Aberystwyth
Pa adrannau?
Mae'r adrannau yn swyddfa Aberystwyth yn canolbwyntio ar y swyddogaethau cefn gwlad a gwledig. Mae'r adrannau yn cynnwys:
- Materion Gwledig a Threftadaeth;
- Adran yr Economi a Thrafnidiaeth;
- Gwybodaeth a Gwasanaethau Corfforaethol;
- Amgylchedd; Cynaliadwyedd a Thai;
- Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
- Adran Plant, Addysg;
- Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ac
- Adnoddau Dynol.
Faint o swyddi?
Bydd tua 535 o swyddi yn trosglwyddo o Gaerdydd ac o swyddfeydd lleol yn bennaf, a bydd lle i recriwtio staff yn lleol hefyd.
Pa bryd agorwyd y swyddfa?
Agorwyd y swyddfa yn swyddogol gan y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar 15 Hydref 2009.
Nodweddion arbennig?
Bydd yr adeilad ar ffurf cynllun agored gyda derbynfa fawr yn cynnwys cyfleusterau siop cam cyntaf. Bydd hyn yn caniatáu mynediad uniongyrchol i'r cyhoedd at Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i gwasanaethau.
Safonau BREEAM?
Y gobaith yw y bydd yr adeiladau yn cyrraedd safon 'Rhagorol' BREEAM.
Llun artist o adeilad newydd Aberystwyth.
