Sir Benfro
Mae Sir Benfro yn gartref i draethau glanaf Cymru, gyda'r mwyafrif ohonynt wedi'u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Mae 170 o filltiroedd o arfordir yn cynnig noddfa i amrywiaeth enfawr o adar môr, sy'n cyd-fyw ochr yn ochr â syrffwyr, pysgotwyr a llongwyr sy'n cael eu denu i'r rhanbarth unigryw hwn.
I'r dwyrain ac i'r gogledd-ddwyrain, mae Sir Benfro yn ffinio â Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin. Mae ei phoblogaeth o 117,500 yn byw gan mwyaf ar yr arfordir, yn union fel y mae pobl wedi tueddu i'w wneud ers y cyfnod cynhanesyddol. Mae meini hirion a thomenni claddu i'w gweld yma ac acw ar dirwedd Sir Benfro, yn dystiolaeth bod pobl wedi byw yno ganrifoedd maith yn ôl.
Heddiw, mae Sir Benfro yn dibynnu ar dwristiaeth a phuro olew ar gyfer y rhan fwyaf o'i swyddi. Ei phrif drefi yw Hwlffordd, y ganolfan weinyddol, a Dinbych-y-pysgod, sef cyrchfan fwyaf poblogaidd Sir Benfro. Mae aneddiadau pwysig eraill yn cynnwys Tyddewi, dinas leiaf y Deyrnas Unedig, Abergwaun, tref farchnad lawn bwrlwm, ac Aberdaugleddau, dyfrffordd ddyfnaf Ewrop ac o ganlyniad i hynny, porthladd pwysig i danceri mawr.
Twristiaeth
I gael rhagor o wybodaeth am dwristiaeth yn Sir Benfro, ewch i wefan Croeso Cymru.
Swyddfeydd
Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru swyddfeydd yn Hwlffordd, Aberdaugleddau a Doc Penfro.
Hefyd, fel rhan o'i Strategaeth Leoli, agorodd Llywodraeth Cynulliad Cymru swyddfa newydd yn Aberystwyth er mwyn helpu i wasanaethu'r Canolbarth a'r Gorllewin . Gweler y ddolen berthynol ar y dde i gael rhagor o wybodaeth.
