Y Loteri Genedlaethol
Cafodd mwy na £1 biliwn ei godi ar gyfer achosion da yng Nghymru ers tynnu rhifau buddugol y Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf ar 19 Tachwedd 1994.
Mae 28c o bob £1 a werir ar y Loteri yn mynd at y pum achos da canlynol:
- y celfyddydau a'r diwydiant ffilmiau;
- elusennau;
- iechyd, addysg a'r amgylchedd;
- treftadaeth; a
- chwaraeon.
Ni ddatganolwyd y cyfrifoldeb am ddosbarthu arian y Loteri i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fodd bynnag, gall y Gweinidog dros Dreftadaeth ddylanwadu ar benderfyniadau strategol y rheini sy'n dosbarthu arian y Loteri yng Nghymru. Gwna hyn drwy roi cyfarwyddiadau o ran polisi sy'n disgrifio'r canlyniadau a'r blaenoriaethau y dylid eu cyflawni yng Nghymru , ond heb nodi pa brosiectau a fydd yn derbyn cymorth ariannol.
Dosbarthwyr Arian y Loteri Genedlaethol
Mae pum prif sefydliad yng Nghymru sy'n dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol. Mae gan bob un ei raglen a'i flaenoriaethau ariannu ei hun. Mae'r dosbarthwyr fel a ganlyn:
- Cronfa'r Loteri Fawr;
- Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF);
- Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC);
- Cyngor Chwaraeon Cymru (SCW); a'r
- Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau (NESTA).
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi'n adolygu'i chyfarwyddiadau polisi i Ddosbarthwyr Arian y Loteri. Rhoddwyd cyfarwyddiadau i Gronfa'r Loteri Fawr ac i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Rhagor o wybodaeth
I gael mwy o wybodaeth dros y we, ewch i'r tudalennu ar y dde neu i wefan Achosion Da y Loteri Genedlaethol.
Ewch i: wefan Achosion Da y Loteri Genedlaethol (cyswllt allanol)
Ni ellir dal Llywodraeth Cynulliad Cymru'n gyfrifol am gynnwys nac am ddibynadwyedd y gwefannau sy'n gysylltiedig, ac nid yw'n cymeradwyo o reidrwydd unrhyw farn a fynegir ynddynt. Ni ddylid ystyried bod eu rhestru'n eu cymeradwyo mewn unrhyw fodd. Ni allwn sicrhau y bydd y cysylltau hyn yn gweithio bob tro ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.
