Asesu'r effaith ar iechyd
Mae asesu'r effaith ar iechyd yn edrych ar y materion ehangach sy'n gallu effeithio ar iechyd a lles pobl.
Gall Asesu'r Effaith ar Iechyd wneud cyfraniad gwerthfawr at Her Iechyd Cymru, y ffocws cenedlaethol ar gyfer gweithredu i wella iechyd a lles. Mae'n archwilio polisïau a mentrau lleol a chenedlaethol i:
- leihau unrhyw effaith negyddol; a
- rhoi mwy o gyfleoedd i bobl wella eu hiechyd.
Gellir defnyddio asesu'r effaith ar iechyd yn ystod unrhyw gam o ddatblygu polisi neu brosiect. Mae pum prif gyfnod:
- sgrinio - penderfynu a oes angen Asesu'r Effaith ar Iechyd;
- cwmpasu - penderfynu ar ffocws, dulliau a chynllun gwaith;
- asesu - sefydlu'r effeithiau ar iechyd;
- adrodd - cynhyrchu adroddiad ar yr asesiad;
- monitro a gwerthuso'r broses - gwerthuso sut y defnyddiwyd y wybodaeth - pa mor ddefnyddiol oedd hi a'i heffaith ar y broses o wneud penderfyniadau.
Gall sefydliadau a grwpiau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol asesu'r effaith ar iechyd. Gellir ei ddefnyddio yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae asesu'r effaith ar iechyd yn cynnig modd systematig o ystyried iechyd fel rhan o'r prosesau cynllunio a phenderfynu, ac mae'n annog y cyhoedd i gymryd rhan.
