This snapshot, taken on
13/12/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.
Skip to content

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 (MALlC) yw’r mynegai swyddogol ar gyfer mesur amddifadedd mewn rhannau bychain o Gymru. Mae'n ddull o fesur dwysedd yr amddifadedd ar lefel ardaloedd bach.

Mae mwy i amddifadedd na thlodi yn unig.  Golyga tlodi brinder arian, ond mae amddifadedd yn cyfeirio at broblemau ehangach a achosir gan brinder adnoddau a chyfleoedd.  Mae MALlC yn cynnwys wyth gwahanol math ar amddifadedd, fel a ganlyn:

  • incwm
  • tai
  • cyflogaeth
  • mynediad at wasanaethau
  • addysg
  • iechyd
  • diogelwch cymunedol
  • yr amgylchedd ffisegol

Rhannwyd Cymru'n 1,896 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) ac mae tua 1,500 o bobl ymhob ardal.  Trefnwyd pob un o'r ardaloedd hyn yn ôl lefel yr amddifadedd: caiff yr LSOA fwyaf amddifad ei rhoi'n 1, a'r lleiaf amddifad ei rhoi'n 1,896.  Caiff un ardal ei gosod ar lefel amddifadedd uwch nag un arall os oes cyfran uwch o bobl yn byw yno sy'n cael eu cyfri'n amddifad.  Nid yr ardal ei hun sy'n amddifad ond amgylchiadau a ffordd o fyw pobl yr ardal a dyna sy'n cyfrif am y raddfa amddifadedd. Mae'n bwysig cofio nad pobl amddifad yw pob un sy'n byw mewn ardal o amddifadedd, ac nad mewn ardal o amddifadedd yn unig y mae pobl amddifad yn byw.

Mae MALlC yn addas at ddibenion lle mae diddordeb mewn ardaloedd sydd â dwysedd uchel o amddifadedd.  Caiff ei ddefnyddio i:

  • roi graddfa gyffredinol o amddifadedd i bob un o'r 1,896 LSOA yng Nghymru
  • rhoi graddfeydd ar gyfer y gwahanol feysydd o amddifadedd ym mhob LSOA
  • cymharu'r graddfeydd amddifadedd mewn dwy neu ragor o'r LSOA
  • cymharu dau awdurdod lleol neu ragor (neu grwpiau eraill o LSOA) drwy edrych ar gyfran yr LSOA yn yr awdurdod lleol yn (dyweder) y 10 y cant mwyaf amddifad yng Nghymru.

Ni ellir defnyddio'r mynegai i:

  • fonitro newid dros gyfnod
  • dweud faint yn fwy amddifad y mae un ardal o gymharu ag un arall
  • crynhoi i ddaearyddiaeth wahanol drwy gyfrif cyfartaledd graddfeydd yr LSOA sy'n rhan o'r ddaearyddiaeth honno.