Mae’r dudalen hon yn rhoi enghreifftiau sy’n egluro sut y cyfrifir Credyd Pensiwn ar sail oedran ac amgylchiadau. Darllenwch yr enghreifftiau hyn er mwyn deall yn well sut mae Credyd Pensiwn yn berthnasol i sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos faint o Gredyd Pensiwn y gall gwahanol bobl ei gael.
Dyma'r cyfraddau a ddefnyddir yn yr enghreifftiau:
Swm sefydlog – bydd y Credyd Gwarant yn cynyddu'ch incwm i'r swm hwn. Fe allech chi gael mwy os ydych yn ofalwr neu os oes gennych anabledd difrifol neu gostau eraill sy’n ymwneud â’ch cartref, megis taliadau llog ar eich morgais.
Dyma’r cyfraddau presennol ar gyfer swm sefydlog Credyd Gwarant:
Trothwy’r Credyd Cynilion – dyma pryd byddwch yn dechrau cronni Credyd Cynilion.
Dyma drothwy’r Credyd Cynilion ar hyn o bryd:
Cyfraddau Credyd Cynilion – dyma’r swm uchaf o Gredyd Cynilion
Dyma gyfraddau cyfredol y Credyd Cynilion:
Mae Jackie yn 62 oed ac yn berchen ar ei thŷ ei hun. Mae’n cael £105 o Bensiwn y Wladwriaeth bob wythnos, a dyna yw ei hunig incwm. Mae ganddi £5,000 o gynilion.
Bydd Jackie yn cael £27.60 o Gredyd Gwarant yr wythnos, ac felly mae cyfanswm ei hincwm wythnosol yn £132.60. Rydym yn anwybyddu ei £5,000 o gynilion am ei fod yn llai na £10,000. Gan fod Jackie yn 62 oed, dim ond Credyd Gwarant y mae’n gymwys i’w gael. Pan fydd yn 65 oed, efallai y bydd yn cael Credyd Cynilion hefyd.
Gan fod Jackie’n cael Credyd Gwarant, bydd yn cael y budd-dal Treth Cyngor yn llawn a chymorth gyda chostau eraill, megis rhent.
Mae Mary a Frank yn 75 oed ac yn cael £210.25 yr wythnos fel a ganlyn:
Gan fod incwm Mary a Frank yn fwy na £202.40, ni allant gael Credyd Gwarant, ond mae ganddynt hawl i gael £23.95 o Gredyd Cynilion.
Bydd Mary a Frank yn cael £23.99 o Gredyd Pensiwn, sy’n golygu bod ganddynt £234.20 o incwm wythnosol.
Mae Jack yn 63 oed ac wedi rhoi’r gorau i weithio amser llawn wyth mis yn ôl. Mae’n byw ar ei ben ei hun yn ei gartref ei hun ac yn ennill £85 yr wythnos drwy swydd ran-amser.
Rydym yn anwybyddu £5 o enillion Jack, ac yn cyfri'r £80 sydd ar ôl fel incwm at ddibenion Credyd Pensiwn. Bydd Jack yn cael £52.60 o Gredyd Gwarant, ac felly mae cyfanswm ei incwm yn £137.60.
Ni all Jack gael Credyd Cynilion gan mai 63 oed ydyw.
Mae Mavis yn fenyw 75 oed sy’n byw ar ei phen ei hun ac mae ganddi anabledd difrifol. Mae ganddi £9,000 o gynilion ac yn cael £169.05 drwy'r canlynol:
Wrth gyfrifo ei Chredyd Pensiwn, rydym yn anwybyddu ei chynilion gan eu bod yn llai na £10,000 ac rydym hefyd yn anwybyddu ei Lwfans Gweini.
Bydd Mavis yn cael £88.60 o Gredyd Pensiwn yr wythnos (mae hyn yn cynnwys £53.65 ychwanegol yr wythnos am fod ganddi anabledd difrifol). Felly, mae cyfanswm ei hincwm wythnosol yn £257.65.
Ni all Mavis gael Credyd Cynilion gan fod ei hincwm cymhwyso (£97.65) yn is na throthwy’r Credyd Cynilion, sef £98.40 ar gyfer person sengl.
Nid yw ei Lwfans Gweini yn cyfrif fel incwm cymwys ar gyfer Credyd Cynilion.
Ganed Denis ar 21 Mehefin 1950. Bydd yn cyrraedd yr oedran gofynnol ar gyfer Credyd Pensiwn ar 6 Medi 2010, yn 60 oed a dau fis. Ar hyn o bryd, mae’n cael £65.45 yr wythnos o Gymhorthdal Incwm ac nid oes ganddo incwm arall.
Bydd Denis yn parhau i gael cymhorthdal incwm nes bydd yn cyrraedd yr oedran gofynnol ar gyfer Credyd Pensiwn ar 6 Medi 2010. Os bydd ei amgylchiadau'n aros yr un fath, bydd yn cael cyfanswm wythnosol o £132.60 o Gredyd Pensiwn.