Bara Brith Ffrwythau Cymysg
Dyma rysáit ar gyfer bara brith sy'n wych amser te ar ei ben ei hun neu gyda menyn
Goleuadau traffig
Dysga fwy am labelu goleuadau traffig.ISEL
HALEN
0.4g
UCHEL
SIWGR
65.0g
ISEL
B.DIR
0.9g
ISEL
BRAS
4.6g
Cynhwysion
newid i fetrig- 10 ½ oz o ffrwythau cymysg
- 6oz o siwgr cansen crai
- 10 ½ fl oz o de oer wedi'i hidlo
- 1 wy canolig, wedi'i guro
- 7oz o flawd codi gwenith cyflawn
- Hanner llwy de o sbeis cymysg wedi’u malu
- Olew a marjarin i iro'r tun
Cyfarwyddiadau
I ddechrau, rhaid paratoi'r ffrwythau'r noson gynt. Rho'r ffrwythau cymysg a'r siwgr mewn powlen, yna arllwys y te oer wedi'i hidlo ar eu pen a chymysgu'r cyfan yn drylwyr. Yna gorchuddia'r bowlen a'i gadael dros nos, bydd hyn yn gwneud y dorth yn llaith.
Y diwrnod canlynol, cynhesa’r popty i 180ºC neu farc nwy 4.
Ychwanega'r wy wedi'i guro, y blawd a'r sbeis cymysg at y gymysgedd ffrwythau a’r te. Cymysga bopeth yn drylwyr.
Mae angen iro a rhoi ychydig o flawd yn y tun torth a thywallt y gymysgedd iddo’n ofalus, yna’i bobi yng nghanol y popty am awr i awr a chwarter. Rho gyllell yn y dorth - os daw allan yn lân mae hi wedi’i choginio.
Rho gyfle i'r dorth oeri yn y tun am 5 i 10 munud yna'i throi ar rac weiren i orffen oeri.
Mae'n wych gyda marjarin ac ychydig o jam neu fêl.
Gwybodaeth am faeth
| Maeth | Fesul 100g | Fesul tafell 175g |
|---|---|---|
| Egni | 231 kcal (968 kJ) | 405 kcal (1699 kJ) |
| Protein | 3.9g | 6.9g |
| Carbohydradau | 51.1g | 89.7g |
| (sy'n siwgrau) | 37.0g | 65.0g |
| Braster | 2.6g | 4.6g |
| (sy'n fraster dirlawn) | 0.5g | 0.9g |
| Ffeibr | 1.2g | 2.1g |
| Sodiwm | 0.10g | 0.17g |
| Halen | 0.2g | 0.4g |
Cyngor ar alergedd
Yn cynnwys: wyau, gwenith (glwten). Mae rhai ffrwythau sych yn cynnwys sylffidau, edrycha ar y label bob amser.
Gair i gall ar ddiogelwch bwyd
Cofia olchi dy ddwylo, arwynebau gwaith, offer coginio a byrddau torri bob tro cyn dechrau arni. Paid â rhoi mêl i blant dan 12 mis oed.





