Braster dirlawn ac egni
Ar hyn o bryd, mae pobl yn bwyta llawer mwy o fraster dirlawn, ar gyfartaledd, na’r hyn sy’n cael ei argymell, ac mae’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n ordew yn awgrymu bod y lefelau egni yn neiet pobl yn uwch na’r gofyn ar hyn o bryd. Mae’r ddau fater hwn yn arwain at bryderon iechyd difrifol, yn enwedig o ran clefyd cardiofasgwlaidd, rhai mathau o ganser a diabetes math 2.
Ym mis Chwefror 2008, cyhoeddodd yr Asiantaeth ei rhaglen braster dirlawn ac egni, sy’n ceisio annog pobl i fwyta llai o fraster dirlawn, gan helpu defnyddwyr i sicrhau cydbwysedd o ran eu hegni, a chynnal y cydbwysedd hwnnw. Rydym bellach yn cynnal ail gam ein rhaglen i godi ymwybyddiaeth am fraster dirlawn, a bydd yr ymgyrch ddiweddaraf hon yn cael ei chynnal yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2010.
I gael rhagor o fanylion, cliciwch ar Ymgyrch Braster Dirlawn yr Asiantaeth ar waelod y dudalen hon.
Rhagor o wybodaeth ar ein gwefan bwyta'n iach
I gael rhagor o wybodaeth am fraster dirlawn ac ati, cofiwch gymryd cip ar ein gwefan bwyta'n iach, sydd ar gael drwy eatwell.gov.uk - cliciwch ar 'Cymraeg'
Find out more
Camau i’w cymryd gan ddiwydiant
Mae’r Asiantaeth yn gweithio gyda busnesau bwyd a’u cymdeithasau masnach er mwyn eu cynorthwyo a'u hannog i ostwng lefelau'r braster dirlawn a'r siwgr a ychwanegir at y bwydydd y maent yn eu cynhyrchu.
Cefnogaeth i ymgynghoriad yr Asiantaeth ar fraster dirlawn ac egni
Cefnogaeth a gafwyd gan gwmnïau a sefydliadau cyn lansio ymgynghoriad yr Asiantaeth ar Fraster Dirlawn ac Egni:
Rôl maint dognau yn ein deiet
Mae'r Asiantaeth wedi ymchwilio i sut y mae newidiadau mewn maint dognau bwydydd cyffredin wedi effeithio ar egni, lefelau magu pwysau a deiet pobl.
Traws-frasterau
Mae traws-frasterau (neu asidau traws-frasterog) yn cael effaith debyg i frasterau dirlawn ar golesterol yn y gwaed – maent yn codi lefel y math o golesterol yn y gwaed sy’n cynyddu’r perygl y bydd rhywun yn dioddef o glefyd y galon.
Ymgyrch braster dirlawn yr Asiantaeth - Codi ymwybyddiaeth defnyddwyr
Mae'r Asiantaeth newydd gyhoeddi ail gam ei hymgyrch i godi ymwybyddiaeth defnyddwyr o fraster dirlawn, a bydd yn cael ei chynnal drwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror 2010.
