Mae'n hanfodol eich bod yn cynnal a chadw eich cerbyd er mwyn sicrhau ei fod yn addas i fod ar y ffordd, yn ddiogel i'w yrru, yn effeithiol o ran defnyddio tanwydd, yn achosi llai o lygredd ac nad yw'n beryglus i deithwyr, cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd. Mae cynnal a chadw cerbyd yn amrywio o lanhau eich cerbyd a chynnal archwiliadau wythnosol i gael gwasanaeth llawn arno a'i atgyweirio.
Mae'r prawf gyrru car neu feic modur ymarferol newydd bellach yn gofyn i chi wybod yn gyffredinol sut i gynnal a chadw eich cerbyd. Gofynnir i ymgeiswyr ateb cwestiynau ar archwiliadau diogelwch sylfaenol i sicrhau bod y cerbyd yn ddiogel i'w ddefnyddio.
Darllenwch yr erthygl ‘Cynnal a chadw cerbyd, diogelwch a diogelu’ yn Rheolau’r Ffordd Fawr i gael rhagor o wybodaeth.
Ynghyd â'r uchod, dylai perchnogion beiciau modur wneud y canlynol:
Ceir gwybodaeth am sut i gyflawni'r tasgau hyn yn llawlyfr y perchennog sy'n dod gyda'r cerbyd. Mae'r llawlyfr hefyd yn cyfeirio at unrhyw weithgareddau cynnal a chadw eraill sy'n cael eu hargymell ar gyfer eich cerbyd.
Gwasanaeth rheolaidd gan y gwneuthurwr. Mae'r rhain yn amrywio o wneuthurwr i wneuthurwr ac o gerbyd i gerbyd, gan ddibynnu ar y math o gerbyd a'r math o injan. Fel arfer, ceir gwybodaeth am y gofynion yn llawlyfr y perchennog sy'n dod gyda'r cerbyd.
Bydd cael prawf MOT blynyddol neu brawf cerbyd nwyddau yn sicrhau bod eich cerbyd, pan fydd yn cyrraedd oedran penodol, yn cael ei archwilio o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau ei fod yn addas i fod ar y ffordd ac yn bodloni gofynion amgylcheddol.
#Ar ôl cynnal a chadw eich cerbyd, bydd angen i chi ystyried sut i gael gwared ag olew o'r injan, hylifau eraill, batris, teiars ac ati. Gall blerwch wrth gael gwared â'r eitemau hyn achosi llygredd i'r amgylchedd. Mae gan lawer o gynghorau neu awdurdodau lleol gyfleusterau ailgylchu lle gellir casglu olew, hylifau a batris i'w hailgylchu. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu ewch i'w gwefan i gael gwybod ble mae'ch canolfan ailgylchu agosaf.