Os aiff eich eiddo dan ddŵr gall fod yn gostus, nid yn unig o ran arian ac amser ond hefyd anghyfleustra a phoen calon. Ni ellir diogelu eiddo yn llwyr rhag llifogydd ond mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau'r difrod a achosir gan lifogydd.
Mae'n allweddol eich bod yn gweithredu nawr er mwyn i chi fod yn barod pan geir llifogydd yn eich ardal.
Mae'n amhosibl diogelu eiddo yn llwyr rhag llifogydd, ond mae llawer o ffyrdd y gallwch addasu eich cartref neu eich busnes a fydd yn helpu:
- prevent water from short, shallow flooding from getting into the building;
- atal llifddwr rhag dod i mewn i'r adeilad am gyfnod os ceir llifogydd mwy difrifol, gan roi mwy o amser i chi symud eich eiddo personol i le diogel a gwacáu'r adeilad;
- cyfyngu ar y difrod i waliau, lloriau a gosodiadau os daw llifddwr i mewn i'r adeilad;
- hwyluso a chyflymu'r broses o lanhau a sychu'r adeilad, fel y gallwch roi trefn ar eich bywyd cyn gynted â phosibl.
P'un a ydych yn rhentu eich cartref neu'ch safle busnes neu'n berchen arno, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i'ch helpu eich hun. Mae rhai yn fesurau syml a dros dro tra bod eraill yn cynnwys gwaith strwythurol parhaol.
Y peth pwysicaf yw paratoi nawr drwy brynu a gosod cynhyrchion llifogydd ymlaen llaw. Peidiwch ag aros nes ei bod yn edrych yn debygol y ceir llifogydd am na fydd gennych yr amser i brynu'r mesurau na'u rhoi ar waith.