This snapshot, taken on
26/11/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Rhagweld y tywydd a rhybuddio

Mae dweud wrth bobl bod llifogydd ar fin digwydd yn hanfodol, gan ei fod yn rhoi amser iddynt baratoi. Rydym hefyd yn annog y rhai sydd mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd i wneud cynllun llifogydd, fel y byddant yn barod pan ddaw'r rhybudd.

Rhybuddio a hysbysu'r cyhoedd

Un o'n swyddogaethau allweddol yw rhagweld llifogydd a rhybuddio'r cyhoedd.  Rydym hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o lifogydd mewn ardaloedd sydd yn tueddu i'w cael, ac yn argymell fod pobl sy'n byw yno'n gwneud paratoadau ymlaen llaw.

Rydym yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf 24 awr y dydd i fonitro glawiad, lefelau afonydd a chyflwr y môr.  Ynghyd â data am y tywydd ac adroddiadau am y llanw gan y Swyddfa Dywydd, gallwn ddarparu rhagolwg ardal leol am y posibilrwydd o lifogydd a pha mor ddifrifol mae'n debygol o fod.  Mae ein timau gweithredu yn aros ar ddyletswydd i benderfynu pa un o'n hamddiffynfeydd y dylid ei defnyddio a phryd, gan weithio bob awr o'r dydd nes bod y perygl o lifogydd wedi dod i ben.

Rydym yn cyhoeddi pedwar math gwahanol o rybuddion llifogydd.  Mae tri o'r codau'n nodi difrifoldeb y rhybudd, a'r pedwerydd yn nodi 'rhybudd ar ben', sy'n golygu fod y perygl wedi mynd heibio.  Rydym yn sicrhau y caiff rhybuddion eu darlledu ar radio a theledu lleol, a gellir cael gwybodaeth hefyd drwy ein gwasanaeth gwybodaeth Llinell Llifogydd (0845 988 1188) neu yn ein gwefan sydd yn cael ei diweddaru bob 15 munud.

Rhybuddio a hysbysu ymatebwyr brys

Yn dilyn llifogydd haf 2007, mae Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Swyddfa Dywydd wedi bod yn chwilio am ffyrdd o gyfuno ein harbenigedd er mwyn cael y darlun mwyaf cyflawn o berygl llifogydd yn genedlaethol, o dywydd sy'n datblygu i'r llifogydd eu hunain.

O ganlyniad i hyn, sefydlwyd Canolfan Rhagweld Llifogydd yn bartneriaeth ar y cyd er mwyn gwella ein gallu i ymateb i lifogydd drwy ddarparu gwasanaethau rhagweld a rhybuddio cenedlaethol i ymatebwyr Categori 1 a Chategori 2. Bydd y ganolfan, sy'n gweithredu 24 awr y dydd, drwy'r flwyddyn, yn rhoi amseroedd cwblhau hirach i ymatebwyr brys a rhagor o wybodaeth a dargedwyd i baratoi ar gyfer llifogydd.  Bydd rhaglen ddatblygu hefyd yn cyflymu gwelliannau i'r technegau rhagweld a gallu'r Ganolfan i ddarparu gwasanaethau newydd.