This snapshot, taken on
26/11/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Lluniwch gynllun llifogydd

Dechreuwch baratoi heddiw cyn i lifogydd ddigwydd.

Os ydych chi’n byw mewn ardal perygl llifogydd gwnewch beth fedrwch nawr er mwyn paratoi am lifogydd. Peidiwch ag aros tan iddo ddigwydd, efallai na fydd amser gennych.

Bydd y gweithredoedd canlynol yn eich helpu i fod yn barod.

  • Gwiriwch eich sicrwydd yswiriant - sicrhewch ei fod yn rhychwantu difrod llifogydd.
  • Dysgwch sut i ddiffodd eich cyflenwadau nwy, trydan a’r prif gyflenwad dŵr.
  • Paratowch git llifogydd o eitemau hanfodol fel tortsh a radio y gellir ei weindio.
  • Cytunwch ble fyddwch chi’n mynd a sut i gysylltu â’ch gilydd.
  • Meddyliwch ynghylch beth allwch chi ei symud i fan diogel nawr (er enghraifft albymau ffotograffau, fideos teuluol a chofarwyddion/eiddo a drysorir).
  • Meddyliwch ynghylch beth fyddech chi eisiau eu symud i fan diogel yn ystod llifogydd (er enghraifft anifeiliaid anwes, ceir a dodrefn).
  • Crëwch restr o rifau cysylltu pwysig gan gynnwys Llinell Llifogydd 0845 988 1188.

Eich cynllun llifogydd personol

Bydd hyn o gymorth inni wybod rhagor am sut y mae pobl yn ymbaratoi at lifogydd, ac yn caniatáu i chi ymgofrestru ar gyfer derbyn gwybodaeth fuddion am lifogydd, os dymunwch hynny.  

Cynllun llifogydd cymunedol

Bydd cydweithio fel cymuned yn eich helpu i ymateb yn gyflym ac yn effeithlon pan ddaw llifogydd.

Mae’r ganllaw hon ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â chynorthwyo cymunedau, sefydliadau a grwpiau cymunedol i wella eu gallu i gynllunio ar gyfer llifogydd.

Medrai hyn fod yn:

  • bobl yn eu cymuned leol
  • arweinyddion grwpiau cymunedol
  • ysgolion, ysbytai neu gartrefi gofal preswyl.

Yn ogystal ag unrhyw aelodau eraill o’r gymuned â diddordeb.

Mae’r ganllaw hon yn amlinellu pethau i’w hystyried a chamau ymarferol y  gallwch eu cymryd er mwyn ysbrydoli ac ysgogi trigolion a chymunedau lleol a grwpiau i gydweithio er mwyn gwella sut byddwch chi a nhw yn delio â llifogydd.