This snapshot, taken on
16/11/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

Gwe-lywio

English
[Hepgor y gwe-lywio] [Hafan] [Chwilio] [Map o'r wefan] [Preifatrwydd] [Ymwadiad] [Amdanom ni] [Cysylltu â ni] [Llywio heb lygoden]

Glanhau


Gwe-lywio

[Hepgor y gwe-lywio] [Deiet iach ] [Cyfnodau bywyd] [Materion iechyd] [Cadw bwyd yn ddiogel] [Labeli bwyd]
Mae’n hanfodol cadw cegin lân er mwyn sicrhau fod bwyd yn ddiogel. Fel arall, gall bacteria dyfu a lledaenu.

Ar y dudalen hon


Arwynebau gwaith

Mae’n bwysig iawn cadw arwynebau gwaith a byrddau torri yn lân gan eu bod nhw’n cyffwrdd â’r bwyd yr wyt ti’n mynd i’w fwyta. Os nad ydyn nhw’n gwbl lân, gallai bacteria ledaenu i fwyd a dy wneud di’n sâl.

Os oes gen ti beiriant golchi llestri, mae hyn yn ffordd effeithiol iawn i lanhau byrddau torri plastig. Gall peiriannau golchi llestri eu golchi ar dymheredd uchel iawn, sy’n lladd bacteria. Fel arall, golcha byrddau torri yn drylwyr gyda dŵr poeth a hylif golchi llestri. Yn ddelfrydol, mae’n well cael byrddau torri ar wahân ar gyfer cig amrwd a bwyd sy’n barod i'w fwyta.


Cadachau

Mae cadachau budr, llaith yn lle perffaith i facteria luosogi. Felly mae’n bwysig iawn golchi cadachau a sbwnjis cegin yn rheolaidd a’u gadael i sychu cyn eu defnyddio eto. Yn ddelfrydol, ceisia neilltuo gwahanol gadachau ar gyfer gwahanol dasgau. Er enghraifft, defnyddia un cadach i lanhau arwynebau gweithio ac un arall i olchi llestri. Mae hyn yn helpu i atal bacteria rhag lledaenu. Os wyt ti am ddewis yr opsiwn mwyaf diogel, gallet ti ddefnyddio lliain papur 'taflu i ffwrdd' i lanhau arwynebau gwaith a byrddau torri. Fel hyn, rwyt ti'n taflu’r tywel papur ar ôl ei ddefnyddio unwaith, felly mae'r tyweli hyn yn llai tebygol o ledaenu bacteria na chadachau yr wyt ti'n eu hailddefnyddio. Gall llieiniau sychu llestri hefyd ledaenu bacteria, felly mae’n bwysig eu golchi’n rheolaidd a bod yn ofalus sut yr wyt ti'n eu defnyddio. Cofia, os byddi di'n sychu dy ddwylo ar liain sychu llestri ar ôl cyffwrdd â chig amrwd, bydd hyn yn lledaenu bacteria i’r lliain. Yna, os byddi di’n defnyddio’r lliain sychu llestri i sychu plât, bydd y bacteria’n lledaenu i’r plât.


Cyllyll, llwyau ac ati

Mae’n bwysig cadw cyllyll, llwyau pren, spatulas, gefeiliau (tongs) ac ati’n lân er mwyn helpu i atal bacteria rhag lledaenu i fwyd. Mae’n arbennig o bwysig eu golchi’n drylwyr ar ôl eu defnyddio gyda chig amrwd, neu fel arall gallant ledaenu bacteria i fwyd arall. Os oes gen ti beiriant golchi llestri, mae'n ffordd effeithiol iawn i lanhau offer y gegin, gan fod peiriannau golchi llestri’n gallu golchi ar dymheredd uchel iawn, sy’n lladd bacteria. Fel arall, cer ati i'w golchi'n drylwyr gyda dŵr poeth a hylif golchi llestri.


Dwylo

Mae’n hawdd iawn i ddwylo ledaenu bacteria i bobman yn y gegin, gan ein bod ni’n cyffwrdd â chymaint o bethau, o fwyd i handlen yr oergell, o lieiniau i declynnau agor tuniau. Felly er mwyn cadw'r gegin yn lân mae angen i ti gadw dy ddwylo’n lân. Golcha dy ddwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr cynnes ar bob un o’r adegau hyn:

Sycha dy ddwylo’n drylwyr, gan eu bod nhw’n lledaenu bacteria’n fwy rhwydd os ydyn nhw'n wlyb. Yr opsiwn mwyaf diogel yw defnyddio llieiniau papur 'taflu i ffwrdd', neu fel arall defnyddia liain yr wyt ti'n ei ddefnyddio i sychu dwylo yn unig – nid dy ffedog neu liain sychu llestri.




Cadw bwyd yn ddiogel


Holi Sam...

“Alla i ailddefnyddio poteli dŵr plastig? ”

Dolenni manwl


Cer i www.food.gov.uk am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Chwilio


Gosodiadau

[Newid Gosodiadau Testun yn Unig] [Fersiwn graffeg o'r dudalen hon] [Brig]

Gwe-lywio

[Deiet iach ] [Cyfnodau bywyd] [Materion iechyd] [Cadw bwyd yn ddiogel] [Labeli bwyd] [Brig]

© Hawlfraint y Goron