This snapshot, taken on
02/02/2011
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.

A wyf yn wynebu perygl o lifogydd?

Pa mor debygol ydyw y bydd llifogydd o afonydd a'r môr yn eich ardal chi? Defnyddiwch ein Map Llifogydd i gael yr ateb.

Map Llifogydd a sut i'w ddefnyddio

Defnyddiwch y map hwn i ganfod yn gyflym y risg o lifogydd o afonydd a'r môr a ragwelir yn eich ardal chi. Gallech fod yn wynebu perygl o ffynonellau eraill o lifogydd hefyd. Ceir rhagor o wybodaeth am y ffynonellau hyn. 

Nodwch mai canllaw yn unig yw ein Map Llifogydd.  Nid yw wedi ei gynllunio i fod yn gywir ar lefel eiddo unigol.

Cyfarwyddiadau

  1. Dewch o hyd i'ch lleoliad ar y map.  Gallwch fynd yn syth at eich ardal drwy chwilio am eich cod post, gan ddefnyddio'r blwch chwilio ar ochr dde'r dudalen hon.
  2. Unwaith y gallwch weld eich lleoliad ar y map, cliciwch ar y pwynt y mae gennych ddiddordeb ynddo.  Yna fe welwch ganllaw i'r posibilrwydd o lifogydd yn eich ardal - isel, cymedrol neu sylweddol. Ceir dolenni hefyd i ragor o wybodaeth a chyngor defnyddiol.

Mwy o wybodaeth am y Map Llifogydd

Gweithredwch yn awr

Ymgofrestrwch ar gyfer derbyn rhybuddion llifogydd gyda’n gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol

rhad ac am ddim ni, neu galwch Floodline ar 0845 988 1188 er mwyn siarad â rhywun ynglŷn â llifogydd.

Map llifogydd

Ydych chi mewn perygl o ddioddef llifogydd? Nodwch eich cod post neu enw lle i gael gwybod nawr...