Cofrestrwch ar-lein i bleidleisio drwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn gan Y Comisiwn Etholiadol.
Er mwyn pleidleisio mewn etholiadau lleol, Ewropeaidd neu etholiadau cyffredinol yn y DU mae'n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio.
Defnyddiwch y ddolen isod a rhowch eich cod post, yna byddwch yn gallu llwytho ffurflen gofrestru. I lenwi'r ffurflen bydd angen i chi roi manylion gan gynnwys eich cyfeiriad cyfredol, cyfeiriad blaenorol lle mae'n bosib eich bod wedi'ch cofrestru i bleidleisio, a'ch dyddiad geni.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein